Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gan Dîm Brechu Torfol Covid-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dydd Llun 6 Rhagfyr 2021

Yn dilyn cyhoeddiadau’r wythnos dwethaf gan JCVI ynghylch ehangu rhaglen brechu Covid-19, rydym wedi derbyn llawer iawn o ymholiadau gan ein preswylwyr ynghylch pryd, ble a sut y byddant yn derbyn eu hail ddosau atgyfnerthu neu eu hail ddosau, sy'n holloll ddealladwy.

Mae'r canllawiau newydd yn newyddion gwych i'n cymunedau, gan ei fod yn golygu y byddwn yn gallu diogelu mwy o'r boblogaeth nag erioed o'r blaen rhag y firws hwn. Fodd bynnag, mae'r newyddion hyn hefyd yn golygu y byddwn yn gweithio'n galetach fyth i gyflawni'r rhaglen frechu hynod uchelgeisiol hon o fewn amserlen hyd yn oed yn llai.

Er mwyn caniatáu inni roi'r newidiadau newydd hyn ar waith ac i frechu cymaint o'n preswylwyr â phosibl, rydym yn gofyn am eich help ac am eich amynedd.

Er mwyn ein helpu ni, rydyn ni'n gofyn i'n preswylwyr:

  • I wneud popeth o fewn eu gallu i gadw'r apwyntiad cyntaf a gynigir iddynt. Oherwydd y nifer uchel o breswylwyr y byddwn yn eu brechu, gallai apwyntiad newydd fod sawl wythnos ar ôl i'r apwyntiad cychwynnol gael ei gynnig.
  • I beidio â chysylltu â ni i ofyn pryd y byddant yn derbyn eu hapwyntiad. Hoffwn eich sicrhau rydym yn dilyn yr un grwpiau blaenoriaeth JCVI ag yr oeddem i gynnig dosau cyntaf ac ail, ac felly byddwn yn brechu ar sail oedran a bregusrwydd unwaith eto. Byddwn yn cysylltu â chi trwy lythyr neu neges destun gyda chynnig apwyntiad.
  • I sicrhau eu bod yn cyrraedd ar amser (ddim yn gynnar ac nid yn hwyr) i'w hapwyntiad.
  • I fod yn hyblyg. Efallai y bydd yn rhaid i ni gynnig apwyntiadau ar fyr rybudd- gwnewch bopeth y gallwch chi i'w fynychu.
  • I fod yn amyneddgar os oes ciwiau yn ein Canolfannau Brechu. Oherwydd y nifer anhygoel fawr o bobl sy'n dod i'n canolfannau brechu, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi giwio wrth fynychu eich apwyntiad. Mae'n ddrwg iawn gennym am hyn a byddwn yn gweithio mor effeithlon ag y gallwn, ond gwisgwch am dywydd oerach rhag ofn y bydd yn rhaid i chi giwio y tu allan.

Rydym yn deall bod llawer ohonoch wedi bod yn cysylltu â’n Canolfan Archebu i ofyn ymholiad neu i aildrefnu apwyntiad presennol ac naill ai wedi profi arosiadau hir neu wedi methu â dod drwodd i siarad rhywun. Mae'n ddrwg gennym nad ydym wedi gallu ateb galwadau cyn gynted ag yr hoffem, ond rydym yn y broses o gynyddu ein gallu yn ein Canolfan Archebu. Yn y cyfamser, ewch i'n gwefan yn y lle cyntaf i ddod o hyd i'r ateb i'ch ymholiad.

Hoffwn eich sicrhau ein bod yn gweithio mor gyflym ag y gallwn a bod ein staff yn gweithio oriau hir ac ychwanegol i ddarparu ar gyfer y nifer ychwanegol o frechiadau sydd eu hangen.

Diolch i'n holl breswylwyr am eu cefnogaeth ac i bawb sydd wedi derbyn y brechiad Covid-19 ac wedi mynychu eu hapwyntiad- bydd gallu cynnig y brechiadau ychwanegol hyn o fudd mawr i'n cymunedau.