Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau yn ystod mis Rhagfyr

Dydd Mawrth 21ain Rhagfyr 2021

Er ein bod yn ceisio dosbarthu cymaint o frechlynnau â phosibl yn ystod mis Rhagfyr trwy'r system archebu gwahoddiadau, mae posibilrwydd y gallai fod gennym rai newidiadau munud olaf i argaeledd. Mae hyn oherwydd y sefyllfa sy'n newid yn barhaus, weithiau ar fyr rybudd, o amgylch staff i ddosbarthu brechlynnau, ynghyd ag aelodau o'r cyhoedd yn gwrthod eu slot apwyntiad.

Yn yr achos hwn efallai y byddwn yn gallu darparu amseroedd apwyntiadau cerdded ar fyr rybudd. Byddwn yn cyhoeddi'r rhain ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook, Trydar).

Diolch am eich cefnogaeth barhaus.