Diolch o galon i’r Fferyllwyr Cymunedol yn ardal ein Bwrdd Iechyd, sydd, rhwng Ionawr a Thachwedd, wedi:
· Dosbarthu dros 14,000,000 o eitemau prescripsiwn
· Gweld 15,000 o unigolion ar gyfer y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin
· Gweinyddu 27,000 o frechlynnau ffliw
· Rhoi Adolygiad Meddygol wrth Ryddhau i 2,000 o gleifion wrth iddynt adael yr ysbyty
· Rhoi cymorth i 8,000 o unigolion gyda chyflenwad brys o feddyginiaeth
· Cefnogi 2,200 o ysmygwyr gyda’u hymdrechion i roi’r gorau i ysmygu
· Wedi rhoi 4,000 o ymgynghoriadau ar gyfer atal cenhedlu brys
Ewch i'n tudalen Fferyllfeydd bwrpasol i ddarganfod sut y gall eich Fferyllfa leol eich helpu chi.