Bu heddiw'n nodi blwyddyn ers ddechreuad ein Rhaglen Brechu Torfol uchelgeisiol, wrth i ni rhoi ein brechiadau Covid-19 cyntaf i'n poblogaeth leol a chymryd ein camau cyntaf tuag at amddiffyn Gwent rhag Coronafeirws.
Bu'r 21 mis diwethaf yn peri mwy o heriau nag y bu'n rhaid i'n Bwrdd Iechyd erioed eu hwynebu, ond mae ein staff, ein partneriaid a'n gwirfoddolwyr wedi ymateb i bob un o'r heriau hyn er mwyn cyflawni'r rhaglen hon.
Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym wedi darparu'r nifer anhygoel o 1,108,475 o frechiadau i’n poblogaeth a gofynnwyd inni ymestyn ein rhaglen frechu Covid-19 hyd yn oed ymhellach, yn ogystal â’i chyflawni o fewn amser cyfyngedig.
Mae ein staff yn gweithio hyd yn oed yn hirach ac yn galetach unwaith eto i amddiffyn cymaint o breswylwyr â phosibl rhag y firws hwn, ac rydym mor ddiolchgar iddynt am eu hymrwymiad a'u hymroddiad.
Ni allai ein Rhaglen Brechu Torfol wedi gallu llwyddo heb gefnogaeth a dealltwriaeth ein preswylwyr. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi manteisio ar y cynnig o frechiad Covid-19 ac wedi ymddiried ynom i'w hamddiffyn a'u hanwyliaid.
Daliwn ati i ddiogelu Gwent.
I gael mwy o wybodaeth am ein Rhaglen Brechu Covid-19, ewch i'n tudalen frechu Covid-19 bwrpasol.