Neidio i'r prif gynnwy

Gweithred Caredigrwydd Y Nadolig o Ysgol Gynradd Leol

Dydd Iau 23 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr i ddisgyblion blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Glan Usk yng Nghasnewydd, sydd wedi ysgrifennu llythyrau Nadolig at y plant sâl yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor fel rhan o'u prosiect ar Garedigrwydd.

Yn y llun, mae Dirprwy Reolwr y Ward, Jessica, yn dal un o’r llythyrau gan y disgybl, James, sy’n sôn am sut y mae'n dwli ar bêl-droed, ac yn dweud wrth y plant eu bod yn ddewr, yn gryf, a’i fod yn gobeithio iddynt gael Nadolig hyfryd.

Dywedodd Johnathan, Arbenigwr Chwarae Iechyd yn y Ward Plant:

“Gall bod yn yr ysbyty adeg y Nadolig fod yn gyfnod cynhyrfus ac anodd iawn i unrhyw un, yn enwedig i blant. Mae'n hyfryd y byddai'r disgyblion blwyddyn pedwar yn Ysgol Gynradd Glan Usk yn meddwl am y plant sâl yn y Faenor, a bydd eu llythyrau'n helpu i wneud eu hamser yn yr ysbyty yn well. Dymunwn Nadolig hapus iawn iddyn nhw i gyd.”

Diolch i Ysgol Gynradd Glan Usk am eu gweithredoedd hyfryd a'u hysbryd y Nadolig!