Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ennill Gwobr Hyrwyddwr Cludiant i Iechyd

Dydd Llun, 6 Rhagfyr 2021

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, yn falch o gyhoeddi bod eu prosiect ‘Cludiant i Iechyd’ wedi ennill y Wobr Hyrwyddwr Cludiant Cymunedol yng Ngwobrau Cludiant Cymunedol Prydain a gynhaliwyd ar-lein ar 18 Tachwedd 2021.

 

Cafodd y prosiect ‘Cludiant i Iechyd’, a ariennir gan y Bwrdd Iechyd, ei enwebu yn y Categori Cludiant Cymunedol yn sgil ei gymorth a’i fuddsoddiad mewn darparwyr cludiant cymunedol lleol trwy sefydlu, gwella ac ymestyn cludiant i wasanaethau iechyd ledled y rhanbarth.

 

Lansiwyd y prosiect ym mis Gorffennaf 2021 er mwyn cynorthwyo cludiant cymunedol i ysbytai a safleoedd eraill y GIG ar hyd a lled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gall darparwyr cludiant wneud cais am gyllid grant i gynorthwyo i ymestyn a datblygu cludiant hygyrch a chynhwysol. Mae’r arian ar gael i fentrau cludiant cymunedol presennol, er mwyn cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau cludiant newydd i gleifion ynghyd ag annog partneriaethau newydd yn y sector.

 

 

Roedd Beirniaid y Wobr yn llawn edmygedd o benderfynoldeb y Bwrdd Iechyd i gynorthwyo cludiant cymunedol trwy fuddsoddi yn y sector a chreu cronfa grant Cludiant i Iechyd er mwyn sicrhau bod darparwyr Cludiant Cymunedol lleol yn cael yr adnoddau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r her bwysig hon.

 

  

Yn ôl Steve Bonser, Pennaeth Newid Trawsnewidiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Colin Gingell, Rheolwr Cymorth Busnes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a welir yn y llun isod:

 

 

“Rydym yn falch ein bod wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r prosiect hwn, gan gynorthwyo darparwyr cludiant cymunedol hen a newydd i ddatblygu a gwella cysylltiadau i gleifion, ymwelwyr a staff sy’n mynd i leoliadau iechyd ledled y rhanbarth. Rydym wrth ein bodd bod y prosiect wedi sicrhau cydnabyddiaeth trwy ennill y Wobr hon.”

 

 

Mae’r Gronfa Grant Cludiant i Iechyd yn dal i fod ar gael, a bydd ceisiadau’n cael eu derbyn a’u hadolygu bob mis dan system dreigl. Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau yw’r diwrnod cyntaf o bob mis. Gellir cael manylion llawn am sut i wneud cais yma: Cronfa Grant Cludiant i Iechyd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (gavo.org.uk)

 

 

Colin Gingell (ar y chwith), Steve Bonser (ar y dde)