Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiriedolaeth y Plwyf: Lansio Bysiau Gwennol Cymunedol

Dydd Gwener 3ydd Rhagfyr 2021

Wedi'i ariannu gan Gronfa Cludiant Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, bydd Ymddiriedolaeth y Plwyf yn lansio eu Bws Gwennol Cludiant i Iechyd newydd sbon o ddydd Mawrth 7fed o Rhagfyr. Gall unrhyw un sydd angen mynediad uniongyrchol i'r ysbyty a'r rhai sy'n dod gyda nhw ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i fynd i apwyntiadau neu ymweld ag anwyliaid yn Ysbytai Brenhinol Gwent neu Brifysgol Grange.

Bydd y bws yn rhedeg ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 08:00 - 16:00 yn codi o arosfannau yn Caerffili, Bedwas, Trethomas, Machen ac yn mynd i Ysbytai Prifysgol Royal Gwent a The Grange. Rhaid archebu teithiau ymlaen llaw trwy ffonio 02921 880 212 (opsiwn 1) neu ddefnyddio'r system archebu ar-lein trwy eu gwefan. Y gost yw £3.75 y teithiwr.

Gellir gweld yr amserlen lawn, y system archebu a'r holl wybodaeth arall yn https://theparishtrust.org.uk/bus/

Mae'r prosiect peilot chwe mis hwn yn rhan o'r prosiect partneriaeth Trafnidiaeth i Iechyd ehangach a sefydlwyd i gefnogi trafnidiaeth gymunedol ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae'r prosiect yn gwahodd ceisiadau grant am hyd at £10,000 gan grwpiau neu sefydliadau sydd â diddordeb i dyfu neu ddatblygu mentrau trafnidiaeth dielw yn benodol i helpu pobl yn eu cymuned i gyrraedd apwyntiadau iechyd neu i ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty. Gellir defnyddio'r cyllid i wella'r gwasanaethau trafnidiaeth presennol, datblygu cynlluniau newydd neu annog partneriaethau newydd.

Hyd yn hyn mae chwe phrosiect wedi derbyn cyllid yn Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Powys. Maent yn gweithio i ddarparu gwahanol atebion trafnidiaeth gymunedol i'w cymunedau yn amrywio o drafnidiaeth hygyrch i'r anabl a'r henoed i gynlluniau ceir gwirfoddol i unrhyw un sydd â rhwystr rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.