Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Diwrnod Hawliau'r Gymraeg #Maegenihawl

Heddiw, Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021, rydym yn cefnogi Diwrnod Hawliau'r Iaith Gymraeg #maegenihawl, lle rydym yn hyrwyddo rhai o'r gwasanaethau Cymraeg yr ydym yn eu cynnig i'n cleifion a'n staff fel rhan o'u Hawliau Iaith Gymraeg.

Gall cyfathrebu â chlaf yn ei ddewis iaith pan fydd yn teimlio ei fwyaf bregus wneud byd o wahaniaeth iddynt. I'r rhai y mae Cymraeg yn iaith gyntaf iddynt, gall cynnig triniaeth iddynt yn eu dewis iaith leihau trallod a gwella eu profiad fel claf yn fawr.

Mae yna aelodau staff cyfrwng Cymraeg yn gweithio mewn llawer o safleoedd ar draws ein Bwrdd Iechyd, o'n Hysbytai a Meddygfeydd Teulu, i'n gwasanaethau cymunedol, Canolfannau Cyswllt a Chanolfannau Brechu Torfol.

Mae aelodau staff Cymraeg i gyd yn hapus i ddarparu gofal cyfrwng Cymraeg i chi fel rhan o'ch Hawliau Iaith Cymraeg.

Dewch i gwrdd â rhai o'n siaradwyr a dysgwyr Cymraeg isod- a pheidiwch ag anghofio dweud Shwmae os ydych chi'n eu gweld yn y gwaith!

 

 

A wyddoch chi bod gennym ni gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol Cymreig hefyd? Gallwch ein dilyn ar y cyfrifon isod:

- Facebook: @BwrddIechydAneurinBevan

- Instagram: @bipaneurinbevan

- Twitter: @BIPAneurinBevan

- YouTube: @BIPAneurinBevan

 

Mae ein gwefan hefyd yn gwbl ddwyieithog - ewch i bipab.gig.cymru neu cliciwch 'cymraeg' yn y gornel dde uchaf pan ar ein gwefan Saesneg.

Cofiwch, os ydych chi am gysylltu â ni yn Gymraeg, byddwn yn eich ateb yn Gymraeg.

#Maegenihawl

 

Ewch i wefan Comisiynydd y Gymraeg i gael mwy o wybodaeth am eich Hawliau.