Neidio i'r prif gynnwy

Cyfathrebu dros y Dolig i Gleifion yr Adran Frys a'u Teuluoedd

Dydd Iau 23 Rhagfyr 2021

Mae'r Nadolig yn amser i deuluoedd fod gyda'i gilydd, ac felly rydym yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw hi i deuluoedd allu siarad â'u hanwyliaid sy'n gleifion yn ein Hadran Achosion Brys ar Ddydd Nadolig.

Er mwyn sicrhau y gall cleifion yn Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Y Faenor siarad â'u teuluoedd ar Ddydd Nadolig hwn, bydd gennym linell ffôn bwrpasol ar gael i berthnasau gysylltu ddefnyddio, a fydd yn cael ei fonitro rhwng 7yb a 7.30yp.

Gofynnir i unrhyw aelodau o'r teulu sy'n dymuno siarad â'u perthnasau yn ein Hadran Achosion Brys ffonio 01633 493287 rhwng yr oriau uchod ar Ddydd Nadolig, lle bydd aelod o staff yn cymryd eu rhif ffôn ac yn trefnu galwad yn ôl gyda'u perthynas. Bydd galwyr yn cael cynnig y dewis rhwng galwad ffôn, galwad Facetime neu alwad Zoom.

Sylwch fod hwn ar gyfer cleifion yn ein Hadran Achosion Brys yn unig, a'i fod ar gael ar Ddydd Nadolig yn unig. Bydd yr holl ddulliau cyfathrebu eraill sydd eisioes yn bodoli yn ein hysbytai yn rhedeg fel arfer.