Ddoe, Dydd Llun 28ain o Fawrth 2022, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd y Gwobrau Cydnabod Staff cyntaf ers cyn dechreuad y pandemig Covid-19.
Ar ôl ei ohirio o fis Rhagfyr 2021, cynhaliwyd y digwyddiad- lle mae cydweithwyr o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd fel arfer yn ymgynnull i ddathlu cyflawniadau ei gilydd yng Nghanolfan Christchurch yng Nghasnewydd- yn rhithiol am y tro cyntaf erioed.
Er gwaethaf y lleoliad amgen, arhosodd pwrpas a naws y digwyddiad yr un fath- dathlu gwaith caled, ymroddiad a gofal rhagorol gan dimau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Llywyddwyd y digwyddiad gan y Prif Weithredwr Dros Dro, Glyn Jones, gyda chyn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Judith Paget CBE, hefyd yn ymuno â’r digwyddiad i gyflwyno Gwobr y Prif Weithredwr.
Dywedodd Glyn, Prif Weithredwr Dros Dro:
“Does dim amheuaeth bod y 2 flynedd ddiwethaf yn arbennig wedi achosi heriau digynsail, a byddai’n esgeulus i mi adael i’n digwyddiad Cydnabod 2021 basio heb ddiolch i bawb am eu hymdrechion anhygoel trwy gydol y Pandemig hwn, ac sydd wrth gwrs yn parhau i ddigwydd. Mae eich ymdrechion yn dyst i arbenigedd, ymroddiad a thosturi ein staff GIG. Er gwaethaf popeth sy’n ein hwynebu, rydym yn parhau i gamu ymlaen a chadw ein ffocws lle y dylai fod – ar y cleifion a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
“Cydabyddwn mai dim ond cipolwg yw hwn o’r holl waith rhagorol a wneir gan ein staff bob dydd ac rwyf am gydnabod ein holl staff am bopeth a wnewch i ddarparu a galluogi gofal rhagorol a thosturiol.”
Gellir wylio'r seremoni ar-lein isod:
Gweler yr enillwyr isod:
Enillydd – Dr Josie Cheetham
Yn ail – Sarah Flowers a'r Arbenigedd Seicoleg Glinigol; Robert Callen Davies
Enillydd – Sarah Power, Prif Nyrs Newyddenedigol yn Ysbyty Athrofaol y Faenor
Yn ail– Emma Davies (Arweinydd Prosiect) a'r Tîm Adsefydliad Cardiaidd; Shannon Greenway, Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol
Enillydd - Mezz Bowley, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ac Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer rhaglen Brechu Torfol Covid 19, a Dr Liam Taylor, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Adrannol Dros Dro, Is-adran Gwasanaethau Cymunedol Gofal Sylfaenol
Yn ail - Joanne Hook, Uwch Nyrs, Ysbyty'r Sir; Dr Adrian Neale, Pennaeth Lles Gweithwyr
Enillydd – Yr Uned Gofal Dwys, Anaestheteg a Theatrau Llawdriniaeth
Yn ail – Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru mewn cydweithrediad â Gofal Sylfaenol ac Eilaidd, Anadlol, Meddyg Teulu, CRT, Nyrsys Eiddilwch a Nyrsys Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Clinigau Dilynol ac Adsefydlu Covid, a gynrychiolir gan Dr Sara Fairburn a Dr Rachel Rouse
Enillydd - Y Tîm Awtomeiddio Prosesau Robotig
Yn ail - Gwasanaeth Nyrsio'r Bledren a'r Coluddyn a Thîm Nyrsio Ardal y De Orllewin; Gwasanaeth Dan Arweiniad Nyrs Methiant y Galon– a gynrychiolir gan Linda Edmunds a Karen Hazel
Enillydd - Y Tîm Anadlol o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd
Yn ail - Gwasanaethau Switsfwrdd; Y Marwdy a Thîm Hyb Gofal ar ôl Marwolaeth
Enillydd - Clinig Dewi Sant - Dr Peter Speirs, Arweinydd Tîm
Yn ail - Cynrychiolwyr Enwebeion yr Addysgwr Ymarfer - Audra Davies a Lis Welton, Tîm Hwyluswyr Ymarfer Addysg Nyrsio Cyn-Cofrestru, Annie Ming ac Ali Kirton; Academi Gofal Sylfaenol Aneurin Bevan, a gynrychiolir gan Dawn Parry, Nyrs Arbenigol
Enillydd - Adran Gofal Iechyd, Carchar Ei Mawrhydi, Brynbuga
Enillydd - Star Moyo, Uwch Nyrs, a'r Tîm Ceiswyr Lloches a Grwpiau Agored i Niwed
Yn ail - Tîm Archebu'r Ganolfan Brechu Torfol; Carole Williams, Uwch Ymarferydd Nyrsio, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Talygarn
Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Gwent, a gynrychiolir gan Eryl Powell, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus
Y Gwasanaeth Fferyllol
Y Tîm Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Christine Culleton, Nyrs Staff, Clinig Brynhyfryd
Richard Lane - “Y Swyddog Diogelwch sy'n canu” yn Ysbyty Athrofaol y Faenor
Radio YYFM – Steven Davies a’r Tîm yn Ysbyty Ystrad Fawr
Yr Athro Charlotte Lawthom – Niwrolegydd Ymgynghorol
Jane Turner – Nyrs Arbenigol Colorectol
Rebecca Pearce – Uwch Reolwr Rhaglen
Dan Davies – Pennaeth Staff
James Hodgson – Pennaeth Cyfathrebu
Ed Valentine – Ymgynghorydd ym Meddygaeth Frys
Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr ac enwebeion - rydym yn falch iawn ohonoch chi gyd!