Neidio i'r prif gynnwy

Neges Frys Am Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022

Mae’r Bwrdd Iechyd dan bwysau parhaus a ddigynsail. Er gwaethaf camau gweithredu i geisio sefydlogi ein gwasanaethau, heddiw rydym wedi gorfod datgan cyflwr o 'barhad busnes'.

Mae ein Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn hynod o brysur, ac rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o ymweliadau. Felly, mae amseroedd aros i weld Meddyg, mewn rhai achosion, yn fwy na 14 awr pan nad yw cyflwr y claf yn bygwth bywyd. Ychydig iawn o welyau sydd gennym ar draws ein hysbytai i'w ddarparu ar gyfer cleifion sydd angen eu derbyni mewn i'r ysbyty.

Mae angen i ni ofyn am eich cefnogaeth a dim ond os yw'n bygwth bywyd neu os oes gennych anaf difrifol y dylir mynychu Ysbyty Athrofaol Y Faenor.

Os oes angen cymorth meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaeth yr ydych yn ei ddewis.

Os ydych yn sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch wirio'ch symptomau, neu gellir ffonio GIG 111 am gyngor.

Dylir dim ond fynd i’r Adran Frys os oes gennych salwch neu anaf difrifol sy'n bygwth bywyd, megis:

• Anawsterau anadlu difrifol

• Poen neu waedu sylweddol

• Poen yn y frest neu rydych yn amau eich bod yn cael strôc

• Anafiadau trawma difrifol (e.e. ar ôl damwain car)

Os oes gennych anaf llai difrifol, yna ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau yng Nghasnewydd, y Fenni neu Ystrad Mynach. Gweler fwy am ein Hunedau Mân Anafiadau.

Os oes gennych chi anwylyd yn yr ysbyty yr ystyrir ei fod yn ffit yn feddygol i gael ei ryddhau gartref, ystyriwch fynd â nhw adref a'i gofalu amdanynt. Os yw'ch anwylyd yn feddygol ffit i gael ei ryddhau gartref, yna nid ysbyty yw'r lle gorau iddynt- byddant yn gwella'n well gartref. Os yw eich anwylyd yn feddygol ffit i gael ei ryddhau, bydd ein staff yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf.

Rydym yn gofyn i deuluoedd helpu yn y modd hwn oherwydd mae'n well i'w hanwyliaid a byddwn yn rhyddhau gwelyau ysbyty i gleifion sâl y mae angen eu derbyn i'r ysbyty.

Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel trwy rannu'r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu.