Neidio i'r prif gynnwy

Dos Atgyfnerthu'r Hydref 

Cymhwysedd Dos Atgyfnerthu'r Gwanwyn Covid-19

Mae'r amddiffyniad yn lleihau dros amser, felly mae'n bwysig cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich brechiadau os ydych yn gymwys.

Fel rhan o adolygiad JCVI (Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio) o raglen frechu Covid-19, maent wedi cyhoeddi datganiad gyda'u cyngor terfynol ar gymhwysedd ar gyfer rhaglen Atgyfnerthu'r Gwanwyn Covid-19 2024.

Mae'r rhai sy'n gymwys ar gyfer Dos Atgyfnerthu'r Gwanwyn Covid-19 yn cynnwys:

• Pobl dros 75 oed

• Preswylydd mewn cartref gofal i oedolion hŷn, neu

• pobl sy'n 6 mis oed a hŷn gyda system imiwnedd gwan

Bydd y rhai sy'n gymwys yn derbyn gwahoddiad am frechiad atgyfnerthu'r Gwanwyn COVID-19 gennym yn fuan. Fodd bynnag, os hoffech gysylltu â'n nhîm trefnu brechiadau, gallwch wneud hynny trwy ffonio 0300 303 1373 neu e-bostio: Abb.massvaccinationbookingcentre@wales.nhs.uk

Yn union fel yn y blynyddoedd blaenorol, byddwn yn dechrau ein brechiadau Atgyfnerthu'r Gwanwyn mewn cartrefi gofal ledled Gwent. Yna byddwn yn gwahodd pobl gymwys eraill i dderbyn eu brechiad yn eu clinig brechu dros dro agosaf - bydd rhestr o'r rhain ar gael yn wythnosol yma: Clinigau Brechu Dros Dro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)

 

Mwy o wybodaeth am y Frechlyn COVID-19: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/

 

Ddim yn gallu mynychu eich apwyntiad? Gofynnir yn garedig i chi rhoi gwybod i ni.

Os oes angen i chi ganslo'ch brechiad Covid-19 - llenwch y ffurflen isod.