Neidio i'r prif gynnwy

Am y Clinig

Pam ydw i wedi cael fy nghyfeirio?

Mae cael eich cyfeirio yn y modd hwn yn golygu y gallech dderbyn ymchwiliadau pellach mewn modd amserol. Mae hyn oherwydd y gallai'r symptomau sydd gennych fod yn gysylltiedig â salwch mawr, gan gynnwys y posibilrwydd o ganser.

Mae tystiolaeth y gall diagnosis cynnar gynyddu'r siawns o drin canser a salwch difrifol arall yn llwyddiannus.

 

 

A yw'r atgyfeiriad hwn yn golygu bod gennyf ganser?

Nid yw pawb sy'n dod i'r clinig yn cael diagnosis o ganser. Mae tua 10% o gleifion a welir yn y clinigau hyn yn darganfod bod ganddynt ganser.

I bobl eraill, gall y profion ddangos cyflwr gwahanol. Mae staff y clinig wedyn yn gallu cynnig cyngor i chi neu eich cyfeirio at wasanaeth gwahanol.

 

 

Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

Mae’n bwysig iawn eich bod yn gwneud y pethau canlynol:

  • Cadarnhewch eich rhif cyswllt cywir gyda'ch meddyg teulu.
  • Os gofynnir amdano, cwblhewch a dychwelwch y prawf FIT a ddarparwyd gan eich meddyg teulu atgyfeirio cyn gynted â phosibl
  • Ewch i'ch meddygfa i ddarparu sampl gwaed cyn gynted â phosibl os nad yw wedi'i wneud eisoes.
  • Byddwch yn barod i dderbyn galwad gan y tîm RDC.
  • Byddwch yn barod ac ar gael i fynd i'r ysbyty ar fyr rybudd.

 

 

Beth sy'n digwydd nawr?

Yn yr RDC, bydd cleifion yn cael asesiad unigol gyda'r nod o gael diagnosis a chychwyn cynllun triniaeth, neu i gael y sicrwydd nad oes unrhyw beth sy'n peri pryder wedi'i nodi.

Rhoddir cyfarwyddiadau manwl i chi ynghylch eich apwyntiad pan fyddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich archeb.