Neidio i'r prif gynnwy

Uned Gastroenteroleg a Gofal Meddygol Dydd

Mae'r Uned Gastroenteroleg a Gofal  Meddygol Dydd wedi'i lleoli ar C4 Gorllewin yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac fe'i harweinir gan nyrsys arbenigol.

Mae hwn yn wasanaeth cleifion allanol yn unig sydd hefyd yn cynnig triniaethau ac ymgynghoriadau ar gyfer cleifion Gastroenteroleg a chleifion Meddygol Cyffredinol.

Mae'r tîm yn trin ystod eang o gyflyrau llwybr gastroberfeddol a'r iau gan gynnwys:

  • Triniaethau clefyd llidiol y coluddyn
  • Trwythau haearn
  • Trallwysiadau gwaed
  • Adolygiadau acíwt
  • Draeniau Ascitic
  • Adolygiadau Hepatoleg, Gastroenteroleg, ac IBD

Oriau gwaith

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00am a 5:00pm.

Nid yw'r uned ar agor ar benwythnosau na gwyliau banc.

Manylion cyswllt

Rheolwr yr Uned: Gaz Lloyd-Ford

Rhif Ffôn: 01633 238217

E-bost: GAU.abb@wales.nhs.uk