Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ar alar a phrofedigaeth

Mae galar yn unigryw i bob un ohonom a bydd profiad pawb yn wahanol. Mae cymorth cyffredinol a chymorth penodol ar gael ar alar i'r rhai sydd ei angen, ble bynnag yr ydych ar eich llwybr galar.

Galar yw'r ymateb naturiol i golli rhywun, neu hyd yn oed golli rhywbeth, sy'n hanfodol i ni. Gall marwolaeth perthynas, ffrind neu gydweithiwr arwain at emosiynau a allai deimlo'n llethol neu hyd yn oed yn frawychus ar adegau.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymdopi â galar gyda chefnogaeth teulu a ffrindiau, ond gall fod yn ddefnyddiol siarad am eich sefyllfa gyda rhywun niwtral sy'n gwybod llawer am brofedigaeth. Am gymorth ychwanegol, lawrlwythwch y daflen Living with Grief: Finding support when someone close to you has died gan y National Bereavement Service.

Isod rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth am wasanaethau cymorth ar brofedigaeth lleol a chenedlaethol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Tîm Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS). Byddant yn gallu eich cyfeirio at wasanaethau profedigaeth lleol.

Rhif ffôn: 01633 493753
E-bost: ABB.PALS@wales.nhs.uk