Neidio i'r prif gynnwy

Post-mortems

Archwiliadau Post-mortem Ysbyty gyda Chaniatâd

Efallai y bydd y meddyg a ardystiodd y farwolaeth yn gofyn am ganiatâd y berthynas agosaf i gynnal archwiliad post-mortem. Mae post-mortem yn archwiliad pwysig sy'n ceisio darganfod mwy am salwch unigolyn i hyrwyddo gwybodaeth feddygol.

Weithiau gall person fod wedi rhoi ei ganiatâd cyn iddynt farw. Os na wnaethant, ni all post-mortem cydsyniol ddigwydd heb gytundeb y berthynas agosaf.

Mae'r broses o gael cydsyniad yn broses fanwl ac mae'n cynnwys gofyn sawl cwestiwn i sicrhau bod dymuniadau'r ymadawedig, a dymuniadau'r berthynas agosaf yn hysbys ac yn cael eu parchu. Bydd copi o'r ffurflen gydsynio yn cael ei chynnig ynghyd â llyfryn y GIG sy'n darparu gwybodaeth ychwanegol am yr archwiliad.

Gall post-mortems ysbyty fod wedi'u cyfyngu i rannau o'r corff fel y frest neu'r pen. Dim ond yr organau neu'r meinwe yr ydych wedi cytuno iddynt gael eu harchwilio y gellir eu harchwilio. Bydd hyn i gyd yn cael ei drafod gyda chi. Dylech gael o leiaf 24 awr i ystyried eich penderfyniad. Dylech hefyd gael manylion cyswllt rhywun i siarad â hwy os byddwch yn newid eich meddwl.

Gallwn eich sicrhau y bydd yr archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal gyda chydymdeimlad ac ni fydd fel arfer yn oedi trefniadau angladd.

Bydd y swyddfa brofedigaeth yn gallu eich cefnogi i wneud y penderfyniad sy'n iawn i chi. Chi sydd i benderfynu'n llwyr p'un ai i roi caniatâd ai peidio. Gellir cael canlyniad yr archwiliad gan ymgynghorydd neu Feddyg Teulu yr ymadawedig. Mae mwy o wybodaeth am bost-mortems ar gael yma: Post-mortem - NHS (www.nhs.uk)

 

Y Crwner a'r Phost-mortem

Mae crwner yn swyddog barnwrol annibynnol sydd â phwerau cyfreithiol. Mae’ n gweithio ar ran y Goron. Mae swyddogion y crwner, a all fod yn sifiliaid neu'n swyddogion heddlu, yn gweithio dan gyfarwyddyd crwneriaid ac maent mewn cysylltiad â theuluoedd sydd mewn profedigaeth, yr heddlu, meddygon a threfnwyr angladdau.

Mae meddygon ysbyty’n rhoi gwybod i’r Crwner am rai marwolaethau.  Mae sawl rheswm pam y byddai'r meddyg yn adrodd am farwolaeth, a gall y rhain gynnwys:

  • Marwolaethau sy'n digwydd o fewn 24 awr o dderbyn y claf i’r ysbyty
  • Pob marwolaeth sydyn
  • Marwolaethau lle nad yw'r achos meddygol yn hysbys
  • Marwolaethau lle mae'r achos yn annaturiol er enghraifft o ganlyniad i ddamwain
  • Marwolaethau yn sgil gwenwyn
  • Marwolaethau yn ystod llawdriniaeth neu'n fuan wedyn
  • Marwolaethau a achoswyd gan glefyd diwydiannol
  • Marwolaethau pan fydd y claf yn cael ei dderbyn yn anymwybodol ac os nad oes modd cadarnhau'r diagnosis
  • Marwolaethau sy'n digwydd oherwydd cwymp neu anaf sy'n achosi toriadau ymysg henoed
  • Marwolaethau o ganlyniad i salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol neu gyffuriau

Rôl y crwner yw ymchwilio i farwolaethau sy’n cael eu hadrodd iddynt a allai fod yn annaturiol am unrhyw reswm neu farwolaethau o achos annisgwyl ac anhysbys. Bydd y crwner neu ei swyddog yn casglu gwybodaeth am yr unigolyn sydd wedi marw ac amgylchiadau ei farwolaeth er mwyn penderfynu a all meddyg roi tystysgrif feddygol neu a oes angen ymchwiliadau pellach.

Os na ellir rhoi tystysgrif feddygol, bydd y crwner fel arfer yn trefnu archwiliad post-mortem. Yna bydd y Crwner yn penderfynu a oes angen yr archwiliad post-mortem neu peidio. Mae gan y Crwner hawl gyfreithiol i ofyn am bost-mortem hyd yn oed os yw hyn yn groes i ddymuniadau'r teulu.

Ni fyddwch  yn derbyn Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth o'r ysbyty pan gynhelir archwiliad post-mortem y Crwner. Os oes post-mortem yn cael ei wneud, dim ond i'r Crwner y mae'r canlyniadau'n mynd ond gall Meddyg Teulu y person sydd wedi marw gael gafael arnynt maes o law.

Pan fydd cwest yn cael ei gynnal, ni ellir cofrestru'r farwolaeth tan ar ôl i'r cwest ddod i ben. Fel arfer, bydd tystysgrif dros dro er mwyn i’r angladd ddigwydd yn cael ei chyhoeddi wrth agor y cwest. Ar ôl i'r cwest gael ei gynnal, bydd y farwolaeth yn cael ei chofrestru.

Dywedwch wrth eich trefnydd angladdau os bydd y farwolaeth wedi ei hadrodd i’r Crwner. Bydd ef neu hi yn cysylltu â'r Crwner ar eich rhan ac yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch gofrestru'r farwolaeth yn y Swyddfa Gofrestru. Fe'ch cynghorir gan y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth os neu pryd y bydd angen i chi gysylltu â'r Crwner.

Mae Swyddfa Crwner Gwent wedi'i lleoli yng Nghasnewydd a gellir cysylltu â hi ar:

Rhif ffôn: 01633 414600

E-bost: Gwent.Coroner@newport.gov.uk 

Gwefan: Gwasanaeth Crwner Gwent | Cyngor Dinas Casnewydd