Yn ddiweddar, llwyddodd ein Tîm Adnoddau Dynol a’n Tîm Lles Gweithwyr i ennill dwy Wobr gan GIG Cymru am eu rhaglen 'Gwella ein Hymchwiliadau i Weithwyr'.
Cyflwynodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru, y gwobrau i'r timau a dywedodd:
"Mae'r gwaith 'gwella ymchwiliadau i weithwyr' – a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – yn rhaglen bwysig i’r GIG ar draws Cymru gyfan. Rydym yn gwybod y gall defnyddio ein polisi disgyblu achosi niwed ac mae'r ffocws ar ei gyflwyno'n fwy tosturiol yn hanfodol i iechyd a lles ein pobl."
Y Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl hwn (03 Rhagfyr), mae Coleg Gwent yn taflu goleuni ar rai o’r myfyrwyr sy’n camu i’r adwy i gymryd interniaethau â chymorth yn Ysbyty Nevill Hall, drwy’r cynllun Gofal fel Arian.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ein Huned Endosgopi bwrpasol newydd sbon wedi agor ei drysau i gleifion heddiw (Dydd Llun 6 Tachwedd 2023) yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Dair blynedd yn ôl, pan oedd George yn 82 oed, sylwodd fod ganddo ddarn bach gwyn yng nghefn ei dafod, a oedd yn boenus iawn.
Ar ôl ymweld â'i ddeintydd a chael ei gyfeirio at arbenigwr, cadarnhaodd biopsi a sgan fod gan George ganser y genau. Yn fuan wedyn, derbyniodd lawdriniaeth i gael gwared ar rai o'i nodau lymff, a oedd yn llwyddiannus ac nid oedd angen triniaeth bellach. Cafodd George ei atgyfeirio, derbyn ei ddiagnosis, ei drin a'i ddatgan yn rhydd o ganser o fewn tri mis!
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eisiau gwella ein gofal a chymorth i bobl sydd mewn profedigaeth.
Mae Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal rhagorol i gleifion ar draws holl leoliadau gofal y GIG. I ddathlu Diwrnod Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, fe wnaethom ofyn i rai o’n Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd beth maen nhw’n ei garu am eu rôl.
Ar Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd, hoffem rannu stori Emmie gyda chi yng ngeiriau ei mam, Vanessa.
Gwahoddwyd Nyrsys a Addysgir yn Rhyngwladol o bob rhan o'r DU i dderbyniad arbennig a gynhaliwyd gan Ei Fawrhydi, y Brenin Siarl III, i ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed sy'n cyd-fynd â dathliadau GIG75. Mae'r digwyddiad hwn yn anrhydeddu ymdrechion ymroddedig nyrsys a bydwragedd ar hyd y degawdau.
Cyn bo hir bydd Canolfan Iechyd Tredegar yn symud i'w cartref newydd yng Nghanolfan Iechyd a Lles Bevan. Fel rhan o'r broses ddadgomisiynu yn barod ar gyfer y symud, mae Canolfan Iechyd Tredegar wedi mynd gam ymhellach i helpu eraill.
Cafodd grŵp o blant o Ysgol Gynradd Ringland ymweliad â'r Ganolfan Iechyd a Lles 19 Hills a enwyd yn ddiweddar, datblygiad gwerth £28m ar hen safle Canolfan Feddygol Ringland.