Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

 

20/04/22
Syniadau Da i Sicrhau Ramadan Iach

Yn ystod Ramadan, mae'n bwysig gwybod sut i ymprydio'n ddiogel, a pha fwyd sydd orau i'w fwyta rhwng ymprydio.

27/04/22
Diffyg Llinell Ffôn - Canolfan Geni Ysbyty Ystrad Fawr

Bydd toriad ffôn am 2 awr rhwng 20.00 a 22.00 ddydd Iau 28 Ebrill 2022 yng Nghanolfan Geni Ysbyty Ystrad Fawr.

20/04/22
Seinyddion Amgylcheddau Di-fwg yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor ac Ysbyty Brenhinol Gwent
Dydd Mercher 20 Ebrill 2022

Mae system seinyddion gyda phad botwm gwasgu bellach ar gael wrth fynedfeydd ar draws Ysbyty Athrofaol Y Faenor ac Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd y seinyddion yn galluogi unrhyw un sy'n gweld rhywun yn ysmygu ar y safle/wrth fynedfeydd i wasgu'r botwm yn anhysbys, a fydd yn chwarae neges wedi'i recordio i atgoffa pobl sy'n ysmygu na chaniateir ysmygu. 

19/04/22
Agoriad Swyddogol Gardd Goffa Mynydd Mawr

Agorwyd Gardd Goffa newydd Mynydd Mawr yn Ysbyty Nevill Hall yn swyddogol ar Ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2022.

12/04/22
Neges gan y Ganolfan Atgyfeirio ac Archebu Cleifion Allanol

Mae ein llinellau ffôn yn hynod o brysur ar hyn o bryd ac mae amseroedd aros galwadau yn hirach nag arfer. Gallwn eich sicrhau bod ein timau'n gweithio'n galed i ateb eich galwad cyn gynted â phosibl.

11/04/22
Nodyn Atgoffa o Ganllawiau Ymweld yr Adran Frys yn Hysbyty Athrofaol y Faenor

Rydym yn falch ein bod wedi gallu lleihau’r cyfyngiadau ymweld ar draws ein hysbytai. Fodd bynnag, hoffem atgoffa ein preswylwyr y mae un person yn unig y gall cleifion sy’n mynychu’r Adran Frys ddod gyda nhw. Yn anffodus, ni allwn ganiatau mwy nag un ymwelydd fesul claf oherwydd maint man aros yr Adran Frys, ac ar adegau prysur, efallai y byddwn yn gofyn i ymwelwyr aros yn rhywle arall os nag oes le iddynt.

06/04/22
Gwasanaeth 111 ar Gael Ar-lein a Dros y Ffôn

Yn aml yn y Gwasanaeth Iechyd, mae ceisio cael mynediad at wasanaethau gofal brys yn gallu achosi tipyn o ddryswch.

Dydych chi ddim yn gwybod pa wasanaethau sydd ar agor pryd, a gan ddibynnu beth yw’ch cyflwr dydych chi ddim yn gwybod pa weithiwr gofal iechyd proffesiynol fyddai'r person gorau i chi.

Mae gwefan GIG 111 Cymru a’r rhif ffôn 111 rhad ac am ddim yn symleiddio hynny. Felly, o hyn ymlaen dim, dim ond deialu 111 fydd angen ichi ei wneud a byddwch chi’n cael eich cyfeirio at un o amrywiol opsiynau.

06/04/22
Canllawiau Ymweliadau Ysbyty Diweddaraf

Dydd Mercher 6 Ebrill 2022

Rydym yn falch o allu lleihau cyfyngiadau ymweld ymhellach o 7 Ebrill 2022 ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Rydym yn parhau i gymryd agwedd ofalus oherwydd nifer yr achosion o Covid yn y Gymuned ond hefyd nifer y cleifion sydd gennym sy’n Covid-positif yn ein hysbytai.

05/04/22
Gwahoddiad i Seremoni Agoriadol Gardd Goffa Mynydd Mawr

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i agoriad swyddogol Gardd Goffa Mynydd Mawr – ein gardd goffa babanod newydd, gwell, yn Ysbyty Nevill Hall.

Cynhelir y seremoni ar Ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2022, am 3yp, yn Ysbyty Nevill Hall.

01/04/22
Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd

Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yr wythnos hon felly mae Allan Huxtable-Goy sy'n gweithio yn ein tîm Theatr yn Ysbyty Ystrad Fawr wedi rhannu ei daith ddiagnosis a ddechreuodd ddiwedd y llynedd.

01/04/22
Ymunwch â ni i gefnogi Cogydd Ysbyty Ystrad Fawr, Ceriann Robbins, ar ei marathon llawn cyntaf!

Ymunwch â ni i weiddi hwrê ar Ceriann Robbins, Cogydd Ysbyty Ystrad Fawr, wrth iddi redeg ei marathon cyntaf ym Manceinion Dydd Sul!