Neidio i'r prif gynnwy

Nodyn Atgoffa o Ganllawiau Ymweld yr Adran Frys yn Hysbyty Athrofaol y Faenor

Dydd Llun 11 Ebrill 2022

Rydym yn falch ein bod wedi gallu lleihau’r cyfyngiadau ymweld ar draws ein hysbytai. Fodd bynnag, hoffem atgoffa ein preswylwyr y mae un person yn unig y gall cleifion sy’n mynychu’r Adran Frys ddod gyda nhw. Yn anffodus, ni allwn ganiatáu mwy nag un ymwelydd fesul claf oherwydd maint man aros yr Adran Frys, ac ar adegau prysur, efallai y byddwn yn gofyn i ymwelwyr aros yn rhywle arall os nag oes le iddynt.

Wrth i ni barhau i weithredu ein polisi Ymweld â Phwrpas, cydnabyddwn  bod angen cymorth ychwanegol ar rai cleifion, ac felly byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ganiatáu’r ymwelwyr ychwanegol hyn lle bo modd.

Yn anffodus, bu llawer o’n staff yn cael eu cam-drin neu'n profi ymddygiad ymosodol wrth geisio rheoli nifer yr ymwelwyr o fewn yr adran yn y dyddiau diwethaf. Nid ydym yn caniatáu unrhyw un i gam-drin ein staff. Mae unrhyw gamdriniaeth neu ymddygiad ymosodol o unrhyw fath, o dan unrhyw amgylchiadau, yn gwbl annerbyniol, a bydd unrhyw un sy'n achosi hwn yn cael ei orfodi i adael yr adran ar unwaith.

Cofiwch fod yn garedig tuag at ein staff- maent yn achub bywydau bob dydd. Diolch am eich dealltwriaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi ymweld diweddaraf, ewch i'n tudalen Canllawiau Ymweld ag Ysbytai arbennig pwrpasol.