Neidio i'r prif gynnwy

Seinyddion Amgylcheddau Di-fwg yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor ac Ysbyty Brenhinol Gwent

Dydd Mercher 20 Ebrill 2022

Mae system seinyddion gyda phad botwm gwasgu bellach ar gael wrth fynedfeydd ar draws Ysbyty Athrofaol Y Faenor ac Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd y seinyddion yn galluogi unrhyw un sy'n gweld rhywun yn ysmygu ar y safle/wrth fynedfeydd i wasgu'r botwm yn anhysbys, a fydd yn chwarae neges wedi'i recordio i atgoffa pobl sy'n ysmygu na chaniateir ysmygu. 

Mae hyn yn rhan o weithgarwch wedi’i gydlynu i godi ymwybyddiaeth o'r Polisi Amgylchedd Di-fwg a Deddfwriaeth Ddi-fwg Llywodraeth Cymru, sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon ysmygu ar unrhyw dir ysbyty ledled Cymru.

Mae hyn yn newyddion da i gleifion, staff ac ymwelwyr gan y bydd hyn yn lleihau ysmygu ar dir ysbytai (yn enwedig wrth y prif fynedfeydd) gan wneud yr amgylchedd hwn yn lle mwy diogel a glanach i bawb.

Bydd y seinyddion newydd yn helpu i gynnwys pawb yn y gwaith o hyrwyddo amgylchedd gofal glanach a mwy diogel i gleifion, staff a'r cyhoedd.

I fanteisio ar gymorth AM DDIM gan y GIG i roi'r gorau i ysmygu, cysylltwch â Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219.