Mae cyngor meddygol ac iechyd brys nawr ar gael ym mhob cwr o Gymru 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, wedi i’r gwaith o gyflwyno’r llinell gymorth 111 i bob ardal bwrdd iechyd gael ei gwblhau’n llwyddiannus. Bu’r gwasanaeth ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers 2019, ac mae bellach wedi’i gyflwyno i bob un o’r saith ardal bwrdd iechyd yng Nghymru. |
Gellir cyrchu’r gwasanaeth, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ar-lein yn http://111.wales.nhs.uk neu dros y ffôn drwy ffonio 111. Mae'r gwasanaeth yn roi’r cyngor a chymorth iechyd diweddaraf i bobl ar ba wasanaeth GIG sy’n addas ar eu cyfer. Mae gwefan GIG 111 Cymru yn cynnwys mwy na 65 o wirwyr symptomau a gwybodaeth am wasanaethau lleol, a dylai pawb edrych ar y wefan yn gyntaf cyn cysylltu dros y ffôn. Os oes gennych fater iechyd brys, bydd y rheini sy'n ateb galwadau’r llinell gymorth 111 hefyd yn eich helpu i gael y driniaeth iawn, ar yr amser iawn ac yn y lle iawn. Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae cyngor meddygol a gwybodaeth am sut i gael gafael ar y gwasanaeth iawn, ar yr adeg iawn, ar gael yn rhad ac am ddim ym mhob cwr o Gymru. "Bydd y gwasanaeth gwych hwn, sy’n cael cymorth cyllid o £15m gan Lywodraeth Cymru, yn helpu pobl i gael y gofal mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion a bydd yn helpu hefyd i leihau’r pwysau sydd ar ein gwasanaeth 999 hanfodol." Dywedodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol 111: "Yn aml yn y Gwasanaeth Iechyd, mae ceisio cael mynediad at wasanaethau gofal brys yn gallu achosi tipyn o ddryswch. "Dydych chi ddim yn gwybod pa wasanaethau sydd ar agor pryd, a gan ddibynnu beth yw’ch cyflwr dydych chi ddim yn gwybod pa weithiwr gofal iechyd proffesiynol fyddai'r person gorau i chi. "Mae gwefan GIG 111 Cymru a’r rhif ffôn 111 rhad ac am ddim yn symleiddio hynny. Felly, o hyn ymlaen dim, dim ond deialu 111 fydd angen ichi ei wneud a byddwch chi’n cael eich cyfeirio at un o amrywiol opsiynau." |