Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd

Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yr wythnos hon felly mae Allan Huxtable-Goy sy'n gweithio yn ein tîm Theatr yn Ysbyty Ystrad Fawr wedi rhannu ei daith ddiagnosis a ddechreuodd ddiwedd y llynedd.

"Rwy’n 60 oed ac wedi cael llawer o drafferthion rhyngweithio'n bersonol â phobl. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall goslefau a mynegiant wyneb ond gyda chymorth yr adran ASD, rwy'n dechrau edrych yn wahanol ar y modd rwy'n rhyngweithio â phobl mewn gwahanol ffyrdd, nid wyf yn ei gael yn gywir bob amser ond rwy'n ymdrechu. 

Y gwasanaeth Iechyd a Llesiant ofynnodd y cwestiwn yn gyntaf.  Roeddwn yn derbyn cwnsela ar ôl gwaith gan yr Uned Therapi Dwys yn Ysbyty Nevill Hall ar ddechrau'r pandemig. Fy nghwnselydd wnaeth sylwi bod gen i'r nodwedd hon a chefais holiaduron i'w cwblhau.

Pan sgoriais fel person ar y sbectrwm ASD doedd o ddim yn syndod. Fel y nodais, mae cyfweliadau a rhyngweithio personol o bob math wedi ac yn parhau i fod yn ddirgelwch nad wyf wedi llwyddo i ddod i arfer ag o.

Gyda chymorth gwasanaethau Iechyd a Llesiant cefais fy nghyfeirio at y Tîm Cefnogi Awtistiaeth ac fe ddywedodd person hyfryd, "aros, ac fe fyddwn mewn cysylltiad", roedd hynny'n anodd, ond roeddwn yn gwybod nad oedd llawer yn gweithio i'r gwasanaeth a'u bod yn gweithio'n bob awr o'r dydd felly mi arhosais, "yn ddiamynedd", jôc oedd honna gyda llaw. 

Fe gysyllton a holi amryw o gwestiynau, teimlais yn fwy cyfforddus gyda'r aseswyr oedd yn gweithio gyda mi nac unrhyw berson arall cyn hynny felly rwyf eisiau diolch iddynt, maen nhw'n gwneud gwaith gwych. 

Yn dilyn cwblhau'r broses dywedwyd wrthyf fy mod "ar y sbectrwm, beth arferai gael ei alw yn syndrom Asperger" ond mae gennym ni'r Aspies, dyna beth mae pobl gydag Asperger yn galw eu hunain, beth maen nhw'n ei alw'n ASD heddiw. 

Unwaith imi dderbyn y llythyr es i fy ngwaith a gadael i fy rheolwr llinell a rheolwr y gyfarwyddiaeth wybod ac fe wnaethant eistedd gyda mi gan ofyn, "sut allwn ni fod o gymorth?"

Mae'r daith o'r dechrau i'r diwedd wedi bod yn ddwy flynedd ac mae hynny, o be rwy'n ei ddeall, yn gyflym felly llongyfarchiadau i'r timau, ond gyda chymorth y bobl anawsterau dysgu, y gwasanaeth llesiant, a fy rheolwyr a nawr rhai o fy nghydweithwyr rwyf bellach yn gwybod o ble mae'r anawsterau rwyf wedi eu profi mewn bywyd yn deillio.

Mae pobl gydag ASD yn edrych yn union fel pawb arall ac nid ydynt yn gweld nac yn gwybod fod y byd maen nhw'n ei weld yn wahanol i'r byd a welwch chi, felly ystyriwch hynny os gwelwch yn dda. Y tro nesaf y dewch ar draws person sydd ychydig yn wahanol neu'n swnllyd neu'n siarad yn gyflym efallai eu bod fel fi ac angen ichi fod ychydig bach mwy amyneddgar wrth iddynt gerdded drwy'r tir peryglus mae pobl yn ei alw'n 'Normalrwydd'."