Mae’n bleser gennym eich gwahodd i agoriad swyddogol Gardd Goffa Mynydd Mawr – ein gardd goffa babanod newydd, gwell, yn Ysbyty Nevill Hall.
Cynhelir y seremoni ar Ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2022, am 3yp, yn Ysbyty Nevill Hall.
Bydd y seremoni’n cael ei harwain gan y Prif Weithredwr Dros Dro, Glyn Jones, a bydd yn cynnwys darlleniadau gan Gaplaniaid y Bwrdd Iechyd, y Parchedig Carol Taplin a’r Parchedig Michael Marsden.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni yn y digwyddiad arbennig hwn.