Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â ni i weiddi hwrê ar Ceriann Robbins, Cogydd Ysbyty Ystrad Fawr, wrth iddi redeg ei marathon cyntaf!

Dydd Gwener 1 Ebrill 2022

Ymunwch â ni i weiddi hwrê ar Ceriann Robbins, Cogydd Ysbyty Ystrad Fawr, wrth iddi redeg ei marathon cyntaf ym Manceinion Dydd Sul!


Nid hon yw ei ras gyntaf gan ei bod yn falch o fod wedi cwblhau Hanner Marathon Abertawe a Hanner Marathon Caerdydd.

Fel cyn ysmygwr, penderfynodd Ceriann newid ei ffordd o fyw gan gwblhau'r her Soffa i 5K yn 2019. Fe wnaeth newidiadau cadarnhaol i'w deiet hefyd gan ddod yn fwy ymwybodol o beth mae'n ei fwyta. Yn ystod y cyfnod clo, roedd yn ymarfer ar ei phen ei hun gan ail ymuno â'i chlwb yn fuan wedyn - a chwblhau rasys 5K ac yna 10K.

Dechreuodd fel Cynorthwyydd Arlwyo gan ddod yn Gogydd cymwysedig yn Ysbyty Ystrad Fawr lle mae'n derbyn cefnogaeth ac anogaeth wych gan ei chydweithwyr am yr hyn mae'n ei wneud.

"Rydym fel uned deuluol ac rwy'n cael cymaint o anogaeth gan fy nghydweithwyr i wneud hyn" meddai Ceriann.

Mae hi hefyd wedi mentora rhedwyr newydd eraill cyn hyn ac mae'n annog rhai sy'n meddwl am ddechrau.

"Nid oes angen i chi fod yn athletwr. Gall unrhyw un ddechrau ymarfer a'i fwynhau. Cymerwch un cam ar y tro a daliwch ati. Mae'n gwneud i chi deimlo'n wych." Parhau gyda Ceriann.


Gan ei bod yn aml yn rhedeg 6-11 milltir cyn i'w shifft yn y gwaith ddechrau, does dim amheuaeth y bydd Ceriann yn gwneud yn wych ym Marathon Manceinion.

Mae Ceriann yn codi arian tuag at gyfleusterau ychwanegol yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwasanaethau Gofal y Fron newydd yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae hyn er mwyn sicrhau bod amgylchedd sensitif yn cael ei ddarparu ar gyfer cleifion gofal y fron lle gallant deimlo'n gyfforddus ac urddasol. Bydd yn ardal lle gall cleifion a'u teuluoedd ddod i delerau â'u diagnosis a thriniaeth. Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma https://www.justgiving.com/fundraising/ceri-robbins