Gyda'r dyddiau'n mynd yn fyrrach, a'r nosweithiau'n tywyllu, a'r tywydd yn oerach - efallai bod llawer ohonom wedi sylwi ar newid yn ein lefelau egni, ein hwyliau a'n cymhelliant yn ddiweddar.
Mae pawb yn teimlo i fyny ac i lawr o bryd i’w gilydd, ond os ydych yn teimlo fel hyn yn gyson, os yw’r teimladau’n ddwys ac yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, mae'n bwysig ein bod yn gofyn am gymorth.
Mae gwybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud i wella eich iechyd meddwl a'ch lles neu wybodaeth am ble y gallwch fynd am gyngor/cefnogaeth ar wefan Melo.
Mae Melo yn wefan sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor sydd wedi ei gymeradwyo, yn ogystal ag adnoddau a chyrsiau AM DDIM i helpu i wella a diogelu iechyd meddwl a lles.
Datblygwyd Melo gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Aneurin Bevan Gwent mewn cydweithrediad â phartneriaid, gan gynnwys pobl â phrofiad o lygad y ffynnon.
Mae ein gwefan Melo wedi gwella 'n sylweddol yn ddiweddar, ac mae bellach yn cynnwys:
Gall y gaeaf fod yn gyfnod anodd i lawer ohonom, ond mae'n bwysig cofio bod amrywiaeth o bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i wella lles a gwydnwch.
Y 'Pum Ffordd at Les' yw pum ffordd syml y gall pawb ddiogelu a gwella eu lles eu hunain.
Dysgwch fwy am bob un o'r Pum Ffordd at Les isod, gyda syniadau ar sut y gallwch eu hymgorffori yn eich trefn ddyddiol y gaeaf hwn.
Cysylltu
Gyda'r bobl o'ch cwmpas - ffrindiau, teulu, cydweithwyr, ac anwyliaid. Bydd adeiladu'r cysylltiadau hyn yn eich cefnogi a'ch cyfoethogi bob dydd.
Byddwch yn actif
Mae ymarfer corff yn gwneud i ni deimlo'n dda. Dewch o hyd i fath o symudiad yr ydych chi'n ei fwynhau ac sy'n gweddu i'ch lefel symudedd a ffitrwydd.
Cymryd sylw
Mae bod yn bresennol yn y foment yn ein helpu i fyfyrio ar ein profiadau a gwerthfawrogi'r hyn sy'n bwysig i ni.
Parhau i ddysgu
Mae dysgu pethau newydd yn helpu i gynyddu ein hyder, yn ogystal â'n cyflwyno i syniadau a safbwyntiau newydd.
Rhoi
Gall gweld ein hunain, a'n hapusrwydd, yn gysylltiedig â'r gymuned ehangach fod yn hynod werth chweil.
Mae mor bwysig ein bod yn gofalu amdanom ein hunain a'r rhai o'n cwmpas y gaeaf hwn.
Ni allwch arllwys o gwpan wag, felly cymerwch amser lle bynnag y bo modd i wneud lle i chi a blaenoriaethu eich lles meddyliol yn ystod y tymor prysur hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am les meddwl, darllenwch ein 10 awgrym gorau ar gyfer Lles Meddyliol.