Dydd Mercher 6ed Tachwedd 2023
Ym mis Tachwedd, llwyddodd ein Tîm Adnoddau Dynol a’n Tîm Lles Gweithwyr i ennill dwy Wobr gan GIG Cymru am eu rhaglen 'Gwella ein Hymchwiliadau i Weithwyr'.
Y gwobrau oedd ‘Cyfoethogi Lles, Gallu ac Ymgysylltiad y Gweithlu Iechyd a Gofal' a 'Gwobr Cyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal'.
Er bod ymchwiliadau i weithwyr yn angenrheidiol ac yn bwysig weithiau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau yn y gweithle, cydnabu rhaglen a sefydlwyd ar y cyd rhwng ein tîm Adnoddau Dynol (AD) a’n tîm lles gweithwyr, y niwed posibl y gallant ei achosi i'r rhai sy'n gorfod mynd drwy'r broses, yn ogystal â'r rhai sy'n gorfod eu gweithredu.
Mae'r rhaglen 'Gwella ein hymchwiliadau i weithwyr' wedi annog staff sy'n gyfrifol am gomisiynu ac arwain ymchwiliadau i fabwysiadu dull 'dewis olaf' o'u cyhoeddi ac i fynd ar drywydd opsiynau anffurfiol i fynd i'r afael â phroblemau lle bynnag y bo modd. Mae hefyd wedi pwysleisio'r angen i reolwyr gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch yr amgylchiadau penodol, cyn iddynt wneud y penderfyniad a ddylid bwrw ymlaen â phroses ffurfiol ai peidio.
Mae'r ffocws hwn yn cefnogi dull o ymdrin ag ymchwiliadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag ymrwymiad i ddysgu a gwelliant parhaus, yn hytrach na defnyddio'r broses ddisgyblu yn amhriodol.
Rhan allweddol o'r rhaglen oedd yr hyfforddiant, a fynychwyd gan dros 120 o reolwyr ac uwch arweinwyr o bob rhan o'r sefydliad.
Cyflwynodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru, y gwobrau i'r timau a dywedodd:
"Mae'r gwaith 'gwella ymchwiliadau i weithwyr' – a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – yn rhaglen bwysig i’r GIG ar draws Cymru gyfan. Rydym yn gwybod y gall defnyddio ein polisi disgyblu achosi niwed ac mae'r ffocws ar ei gyflwyno'n fwy tosturiol yn hanfodol i iechyd a lles ein pobl.
"Rydym hefyd yn gwybod y gall ymchwiliadau i weithwyr gael effaith ehangach ar ddiwylliant sefydliad ac o bosibl ar ansawdd y gofal rydym yn ei ddarparu i'n cleifion a'r cyhoedd – a dyna pam mae'r gwaith hwn yn galw am eu defnyddio fel 'dewis olaf' yn unig. Am y rhesymau hyn, rwy'n falch iawn bod y rhaglen wedi ennill y categorïau gweithlu a chyfraniad rhagorol at drawsnewid iechyd a gofal yng Ngwobrau GIG Cymru eleni.
"Diolch i gefnogaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mae'n galonogol gweld y rhaglen yn cael ei defnyddio gan sefydliadau ar hyd a lled y GIG yng Nghymru – gan leihau ar y niwed i weithwyr y gellir ei osgoi a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n gweithlu a'r cleifion y maent yn eu gwasanaethu."
Ers ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022, mae'r rhaglen wedi gweld gostyngiad o 67% yn nifer yr ymchwiliadau a gomisiynwyd ar draws y Bwrdd Iechyd.