Neidio i'r prif gynnwy

Blychau adnoddau 'Ailysgrifennu Stori Peter' wedi'u dosbarthu i bractisau meddygon teulu ledled Cymru

Fel rhan o fenter i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1, mae blychau adnoddau Ailysgrifennu Stori Peter yn cael eu dosbarthu i bractisau meddygon teulu ledled Cymru. Nod yr ymgyrch hon yw tynnu sylw at bwysigrwydd ei chanfod yn gynnar, yn enwedig mewn plant.

Mae'r blychau adnoddau'n cynnwys cyfoeth o ddeunyddiau addysgol ac offer a gynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1 (Y 4T - toiled, teimlo'n flinedig, teimlo'n sychedig, teneuach). Mae'r fenter yn ymdrech ar y cyd rhwng Diabetes UK Cymru a theulu Peter Baldwin.

Bu farw Peter Baldwin, 13 oed o Gaerdydd, ym mis Ionawr 2015 yn sydyn ac yn annisgwyl o ganlyniad i ddiabetes math 1. Mae Beth, mam Peter, a’i theulu wedi ymgyrchu’n ddiflino ers 2015 i godi ymwybyddiaeth am ddiabetes math 1. Dywedodd mam Peter, “Ein cenhadaeth yw gwneud pawb yn ymwybodol o symptomau math 1, fel nad oes rhaid i deuluoedd eraill fynd trwy’r torcalon o golli plentyn.”

Mae dosbarthiad y blychau yn cyd-daro â Diwrnod Diabetes y Byd ar 14eg o Dachwedd.