Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Cynamseroldeb y Byd - Stori Emmie

Dydd Gwener 17 Tachwedd 2023

Ar Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd, hoffem rannu stori Emmie gyda chi yng ngeiriau ei mam, Vanessa:

"Ganed ein merch Emmie yn 25+1 wythnos, yn pwyso 738g (1lb 10oz) yn Ysbyty Athrofaol y Faenor a threuliodd 81 diwrnod ar y ward NICU. Mae'r diwrnod y cafodd ei geni wedi newid ein bywydau am byth.

Mae cael gwybod efallai na fydd hi'n crio neu efallai na fyddem yn gallu cydio ynddi yn eiriau a chwalodd ein byd. Fodd bynnag, pan gafodd ei geni, clywsom sŵn crio tawel tawel yn dod o’i chorff bach bach ac bu’n bosib i ni gydio ynddi am gyfnod byr. Moment na fyddwn byth yn ei anghofio. Roedd hi'n berffaith.

Cafodd Emmie ei chludo'n syth i'r ward Gofal Dwys, lle cafodd ei rhoi mewn cryd cynnal am 17 awr yn unig cyn cael ei rhoi ar CPAP. Cafodd ei thrin am glefyd melyn a'i rhoi o dan olau glas.

Mae Emmie wedi bod yn ffodus iawn ar ei thaith. Ni fu’n rhaid i ni wynebu nifer o’r cymhlethdodau a'r rhwystrau yr oeddem yn barod amdanynt. Gydag unrhyw fabi cynamserol, mae yna bethau rydych chi'n naturiol yn paratoi'ch hun ar eu cyfer, fel problemau gyda’u llygaid neu’u hysgyfaint neu hyd yn oed y galon gan nad oedd y rhain wedi cael cyfle i ddatblygu ddigon pan gafodd ei geni, ond ar ôl sganiau a phrofion amrywiol, cawsom wybod fod popeth yn iawn.

 

Ei phrif frwydr oedd ennill pwysau. Fodd bynnag, ar ôl cael ei rhoi ar fortifier a oedd yn cynnwys mwy o galorïau, enillodd y gramau ychwanegol hynny yn raddol bob wythnos nes iddi gael ei rhyddhau yn pwyso 1900g.

Y dyddiau cyntaf ar y ward oedd y rhai anoddaf. Mae'r holl beiriannau’n gwichian, nyrsys yn ôl ac ymlaen, ymadroddion meddygol nad oeddech erioed wedi'u clywed o'r blaen, a byddem yn eistedd yno yn teimlo fel pysgod allan o ddŵr. Beth oedd y byd newydd hwn yr oeddem ynddo?

Bob tro y byddai'r monitor yn gwneud sŵn byddai fy nghalon yn suddo i fy stumog wrth i mi dybio bod rhywbeth ofnadwy’n digwydd, ond wrth i'r dyddiau fynd heibio, mae'r synau hyn yn dod yn gysur wrth i chi ddeall beth roedden nhw'n ei olygu. Byddech yn dod yn ymwybodol o'ch amgylchedd newydd, ac yn cymryd y cyfan i mewn a dod yn fwy hyderus nid yn unig ynoch chi'ch hun ond yn eich gallu o ofalu am fabi mor fach.

 

Daeth yr ysbyty yn ail gartref i ni a daeth y staff a rhieni eraill yn deulu estynedig i ni. Mae'r gefnogaeth a gawsom ar y ward NICU ac unwaith i ni gael ein rhyddhau yn rhywbeth y byddwn yn ddiolchgar amdano am byth. Mae gan ward NICU dudalen cyfryngau cymdeithasol (Dinky Dragons) y gall rhieni presennol ar y ward a rhieni sydd wedi'u rhyddhau fod yn rhan ohoni. Gallant ofyn cwestiynau, rhannu atgofion a chysylltu â'i gilydd. Bob mis, mae Dinky Dragons yn cynnal sesiwn dal i fyny y gall rhieni a babanod ddod iddo. Mae yno adloniant amrywiol, teganau a the a choffi i'r mamau a'r tadau ei yfed tra byddant yn dal i fyny.

Ers i Emmie ddod adref, mae hi wedi ffynnu. Mae wedi cyrraedd ei holl gerrig milltir datblygiadol ac mae’n darganfod y byd. Mae ei phersonoliaeth ddoniol, hardd yn disgleirio. Mae hi wir yn ymladdwraig fach."

Diwrnod Cynamseroldeb y Byd Hapus!