Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael eu profi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn y caniateir eu defnyddio. Unwaith y byddant yn cael eu defnyddio, mae eu diogelwch yn parhau i gael ei fonitro gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Mae'r brechlyn RSV wedi pasio safonau diogelwch llym i'w ddefnyddio yn y DU a dangoswyd ei fod yn ddiogel iawn. Fel gyda phob brechlyn, mae unrhyw adroddiadau o sgîl-effeithiau yn cael eu monitro a'u hadolygu'n agos.
Mae’r rhaglen brechu RSV i oedolion hŷn yn rhaglen gydol y flwyddyn ar gyfer unigolion sy’n troi’n 75 oed. Yn ystod y flwyddyn gyntaf mae rhaglen dal i fyny ar gyfer y rhai rhwng 75 a 79 oed (tan 31 Awst 2025). Mae’r tabl isod yn dangos pa oedolion hŷn sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn RSV.
Oedran ar 1 Medi 2024 |
Pryd y gellir rhoi'r brechlyn RSV? |
Cyfnod cymhwyster |
74 |
Ar neu ar ôl pen-blwydd yn 75 oed |
Hyd at 80ain penblwydd |
75 – 78 |
Rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 |
Hyd at 80ain penblwydd |
79 |
Rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 |
Hyd at 31 Awst 2025 |
Gellir dod o hyd i gwestiynau cyffredin ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, cliciwch yma.