Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfnerthwyr Covid-19

Brechlyn yr Hydref Covid-19 ar gael o 1 Hydref 2024

Prif nod y rhaglen frechu COVID-19 genedlaethol o hyd yw atal salwch difrifol (mewn ysbytai a marwolaethau) sy'n deillio o COVID-19. Gan fod brechlynnau COVID-19 sydd ar gael ar hyn o bryd yn darparu amddiffyniad cyfyngedig yn erbyn afiechyd ysgafn ac asymptomatig, mae ffocws y rhaglen ar gynnig brechiad i'r rhai sydd fwyaf tebygol o elwa'n uniongyrchol o frechu, yn enwedig y rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n cynyddu eu risg o fynd i'r ysbyty yn dilyn haint.

Pwy sy'n gymwys ar gyfer Dos Atgyfnerthu Covid-19?

Ar gyfer Hydref 2024, mae'r JCVI yn cynghori y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i:

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy’n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)
  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • Pobl 65 oed a'n hŷn (oed ar 31 Mawrth 2025)
  • Gofalwyr di-dâl
  • Staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Eleni, nid yw canllawiau JVCI wedi argymell bod Staff Rheng Flaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael Dos Atgyfnerthu'r Hydref Covid-19, fodd bynnag, os bydd unrhyw staff Rheng Flaen Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn dymuno cael amddiffyniad ychwanegol y gaeaf hwn, gallant ofyn am frechlyn Atgyfnerthu’r Hydref trwy fynd i un o clinigau brechu ein Bwrdd Iechyd a gofyn am frechlyn, neu gallant ffonio’r ganolfan archebu drwy 0300 303 1373.

Sut alla i gael fy mrechlyn atgyfnerthu?

Yn union fel mewn blynyddoedd blaenorol, byddwn yn dechrau ein brechiadau Atgyfnerthu’r Hydref mewn cartrefi gofal ledled Gwent. Bydd yr holl gleifion cymwys yn cael eu gwahodd i gael eu brechlyn Covid naill ai yn eu meddyg teulu, fferyllfa leol neu glinig brechu cymunedol - ffoniwch ein canolfan archebu ar 0300 303 1373 rhwng 9yb a 5yp, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Sut i gysylltu â ni

Os hoffech gysylltu â’n nhîm archebu brechiadau, gallwch wneud hynny drwy ffonio 0300 303 1373 rhwng 9yb a 5yp, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener neu drwy anfon e-bost at: abb.vsbc@wales.nhs.uk

Sut i aildrefnu neu ganslo eich apwyntiad

Os hoffech ganslo a/neu aildrefnu eich apwyntiad, gallwch wneud hyn drwy lenwi ein ffurflen ar-lein .