Os ydych chi'n poeni efallai eich bod wedi'ch heintio - gallai cymryd prawf leihau eich pryder a gallwch ddod i wybod eich statws
Os byddwch yn cael canlyniad Negyddol - gallwch gymryd camau i leihau eich risg o ddal heintiau yn y dyfodol trwy ddysgu sut i gadw'n ddiogel ac yn iach.
Os byddwch yn cael canlyniad Cadarnhaol – gallwch gael cymorth a thriniaeth, a gallwch hefyd sicrhau nad ydych yn trosglwyddo'r firws i eraill.
Gall triniaethau ar gyfer hepatitis C wella bron pawb sydd â'r haint
Defnyddir meddyginiaethau i drin HIV, sy'n gweithio trwy atal y firws rhag atgynhyrchu yn y corff, caniatáu i'r system imiwnedd atgyweirio ei hun ac atal difrod pellach.
Defnyddir meddyginiaethau hefyd i drin Hepatitis B, a all helpu i reoli'r firws.
Cofiwch - mae triniaethau'n dechrau gyda phrofion - felly mae'n bwysig cael prawf.