Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd Tredegar - Adleoli Adeiladau

Rwy'n falch o allu eich hysbysu bod Canolfan Iechyd a Lles newydd Bevan bellach bron â chael ei chwblhau a byddwch yn gallu cael mynediad i'ch Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o'r safle hwn ar yr 22ain o Ionawr 2024. Fel claf/ cleifion sydd wedi cofrestru gyda’r feddygfa, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth, byddwch yn parhau i fod wedi cofrestru gyda Chanolfan Iechyd Tredegar.

Mae Canolfan Iechyd Tredegar hefyd yn newid ei henw i Ganolfan Feddygol Tredegar ddydd Llun y 22ain o Ionawr 2024.

Cyfeiriad newydd y practis fydd:

Canolfan Iechyd a Lles Bevan
Canolfan Feddygol Tredegar
Park Row
Tredegar
NP22 3NG

Cliciwch isod i weld llythyr y claf a'r Cwestiynau Cyffredin:

Llythyr Claf Adleoli Canolfan Iechyd Tredegar 

Cwestiynau Cyffredin