Diweddariad Medi 2023:
Rydym wedi derbyn hysbysiad y bydd Meddygfa Mount a Meddygfa Churchwood yn dod yn un practis o 1 Hydref 2023 a byddant yn cael eu hadnabod fel Canolfan Feddygol Pont-y-pŵl o'r dyddiad hwnnw.
Am ragor o wybodaeth, ewch i:
Llythyr claf - uno practis Mount & Churchwood
Diweddariad Gorffennaf 2023:
Cynhaliwyd Panel Practis Gwag ar 20 Ebrill 2023, a chytunwyd mai'r opsiwn mwyaf priodol oedd hysbysebu'r practis yn lleol ac yn genedlaethol gyda'r nod o recriwtio gwasanaeth newydd gyda chontractwr meddygon teulu newydd.
Rydym yn falch o gadarnhau bod y Bwrdd Iechyd wedi llwyddo i sicrhau partneriaeth meddygon teulu newydd i gymryd y gwaith o reoli a darparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer Meddygfa Churchwood o 1 Hydref 2023.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y llythyr Canlyniad Claf isod.