Rwy'n falch o allu eich hysbysu bod Canolfan Iechyd a Lles newydd Bevan bellach bron â chael ei chwblhau a byddwch yn gallu cael mynediad i'ch Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o'r safle hwn ar yr 22ain o Ionawr 2024.
Fel claf/ cleifion sydd wedi cofrestru gyda’r feddygfa, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth, byddwch yn parhau i fod wedi cofrestru gyda Meddygfa Glan yr Afon.
Cyfeiriad y practis newydd fydd:
Canolfan Iechyd a Lles Bevan
Meddygfa Glan yr Afon
Park Row
Tredegar
NP22 3NG
Cliciwch isod i weld llythyr y claf a'r Cwestiynau Cyffredin: