Neidio i'r prif gynnwy

Practis Meddygol Brynmawr - Dwyrain Blaenau Gwent

Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol bod y practis wedi cael ei reoli'n uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dilyn ymadawiad y cyn Bartneriaid Meddygon Teulu yn 2015.

Rwy'n falch o gadarnhau, yn dilyn ymgyrch recriwtio gadarn, yn unol â’r broses Practis Gwag, fod y Bwrdd Iechyd wedi llwyddo i sicrhau partneriaeth Meddygon Teulu newydd i reoli a darparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer Practis Meddygol Brynmawr. Mae’r contract wedi ei roi i Dr Allinson a Dr Ahmed a bydd yn dod i rym ar y 1af o Ebrill 2024.

Cliciwch isod i weld copi o'r llythyr a anfonwyd at gleifion:

Llythyr Canlynaid Practis Meddygol - Brynmawr