Neidio i'r prif gynnwy

Argyfwng Iechyd Meddwl

Mae argyfwng iechyd meddwl yn aml yn golygu nad ydych chi bellach yn teimlo y gallwch chi ymdopi neu reoli eich sefyllfa.

Efallai y byddwch chi'n teimlo trallod neu bryder emosiynol mawr, yn methu ymdopi â bywyd neu waith o ddydd i ddydd, meddwl am hunanladdiad neu hunan-niweidio, neu brofi rhithwelediadau a chlywed lleisiau.

Gall argyfwng hefyd fod yn ganlyniad i gyflwr meddygol sylfaenol, fel dryswch neu rithdybiaethau a achosir gan haint, gorddos, cyffuriau anghyfreithlon neu feddwdod ag alcohol. Gall dryswch hefyd fod yn gysylltiedig â dementia.

P'un a ydych chi'n profi dirywiad sydyn mewn problem iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes neu'n profi problemau am y tro cyntaf, bydd angen asesiad arbenigol ar unwaith i nodi'r ffordd orau o weithredu a'ch atal rhag gwaethygu.

Ble allai gael help?

Os ydych chi eisoes wedi cael rhif Llinell Argyfwng gan weithiwr iechyd proffesiynol, ffoniwch ef.

Os ydych chi dan ofal tîm iechyd meddwl a bod gennych gynllun gofal penodol sy'n nodi â phwy i gysylltu pan fydd angen gofal brys arnoch, dilynwch y cynllun hwn.

Ffoniwch GIG 111 (Opsiwn 2)

Gallwch ffonio GIG 111 a dewis Opsiwn 2 os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod angen gofal brys, ond nid yw'n peryglu bywyd.

Mae 111 Iechyd Meddwl (Opsiwn 2) ar gael 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos, ac yn rhad ac am ddim i'w alw, o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes gan y galwr gredyd ar ôl) neu o linell dir.

Gall y gwasanaeth 111 (opsiwn 2) eich helpu:

  • os oes gennych broblem iechyd meddwl yn bodoli a bod eich symptomau'n gwaethygu
  • os ydych chi'n profi problem iechyd meddwl am y tro cyntaf
  • os yw rhywun wedi hunan-niweidio ond nid yw'n ymddangos ei fod yn peryglu bywyd, neu maen nhw'n siarad am fod eisiau hunan-niweidio
  • os yw person yn dangos arwyddion o ddementia posibl
  • os yw person yn profi trais domestig neu gam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol

 

Samariaid

Mae gan y Samariaid wasanaeth rhad ac am ddim i alw 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, os ydych chi am siarad â rhywun yn gyfrinachol. Ffoniwch nhw ar 116 123.