Bydd gan seicolegwyr sy'n ymarferwyr y teitl 'Dr' o flaen eu henw, ond mae'r ffordd yr ydym yn gweithio ychydig yn wahanol.
Mae seicolegwyr yn siarad llawer ac yn darganfod llawer am eich bywyd i feddwl am y ffordd orau i ni eich cefnogi trwy ba bynnag anhawster rydych chi'n ei wynebu. Byddwn yn treulio amser yn deall popeth sy'n digwydd i chi fel y gallwn ddarganfod sut i helpu.
Nid yw seicolegwyr a chynghorwyr fel arfer yn defnyddio offer meddygol, ac fel arfer ni fyddant yn gwneud unrhyw archwiliadau yn eich apwyntiad.
Enghraifft benodol iawn o ble y gallai hyn ddigwydd yw pan fydd y gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion yn gofyn am gael cymryd eich taldra a’ch pwysau, os ydych yn fodlon gwneud hynny.