Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau/Diweddariadau Gwasanaeth Deintyddol

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddarparu Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS) i drigolion ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae’n comisiynu gwasanaethau gan gontractwyr annibynnol drwy Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol/Personol) (Cymru) 2006.

Mae 73 (70 o Ebrill 2024) o Bractisau Deintyddol Cyffredinol sy’n darparu gofal deintyddol i gleifion fel arfer rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener.

Ers 2006, nid yw cleifion wedi eu “cofrestru” gyda phractis deintyddol. Cyfrifoldeb y claf yw mynychu eu hapwyntiad deintyddol ac efallai y bydd angen i gleifion fynychu’r practis deintyddol am unrhyw beth rhwng 3 mis a 24 mis. Fodd bynnag, bydd tîm y practis deintyddol yn cynghori cleifion ar ba mor rheolaidd i fynychu apwyntiadau. Os nad ydych yn mynychu practis deintyddol yn rheolaidd a bod angen gofal deintyddol brys arnoch, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Ddeintyddol ar 01633 744387 neu e-bostiwch ABB.Dental.Helpline@wales.nhs.uk, sydd ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9:00yb-12: 15yp a 1:15yp-4:00yp. Dylid hysbysu cleifion os byddant yn ffonio'r Llinell Gymorth Ddeintyddol ar gyfer gofal deintyddol brys gyda'r nos (6.30yp-8yb) y byddant yn derbyn cyngor yn unig gan nad oes unrhyw apwyntiadau deintyddol ar gael ar y bryd hynny. Yn ystod penwythnosau a Gŵyl y Banc, gall cleifion hefyd gysylltu â'r Llinell Gymorth Ddeintyddol lle mae nifer cyfyngedig o apwyntiadau brys ar gael yng Nghlinig Clytha, Casnewydd a/neu gellir cael cyngor. Gall cleifion hefyd fynd i'w fferyllfa gymunedol leol i ofyn am feddyginiaeth leddfu poen a chyngor ar feddyginiaeth dros y cownter.

Os bydd y Bwrdd Iechyd yn derbyn cais am newid gwasanaeth, bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried yr holl opsiynau mewn ymgynghoriad â Phwyllgor Deintyddol Lleol Gwent a chorff llais y dinesydd, Llais.


I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau deintyddol, ewch i Deintydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)

O 1 Mawrth 2024, bydd y practisau deintyddol canlynol yn cau:

  • Deintyddfa Bupa Gaer, Casnewydd

Os ydych wedi cael eich gweld fel claf GIG o’r practis a enwir uchod ers mis Ebrill 2020, bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda’r Bwrdd Iechyd a bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei hanfon atoch yn uniongyrchol. Bydd y wybodaeth hon yn eich cynghori ar y camau y bydd y Bwrdd Iechyd yn eu dilyn pan fydd practis deintyddol yn cau ei bractis.

O 31 Mawrth 2024, bydd y practis deintyddol canlynol yn cau:

  • Deintyddfa Stryd Clive, Caerffili

Os ydych wedi bod yn glaf GIG yn y feddygfa a enwir uchod ers mis Ebrill 2020, byddwch yn trosglwyddo’n awtomatig i’r practis canlynol:

Smart Smiles, Ystrad Mynach
19 Heol Bedwlwyn
Ystrad Mynach
CF82 7AA

Ffôn: 02920 883350

Nid oes angen i gleifion wneud unrhyw beth, bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu atoch gyda gwybodaeth ychwanegol yn fuan.

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, ni fydd y practisau deintyddol canlynol yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion mwyach:

  • Deintyddfa Bridges, Sir Fynwy
  • Deintyddfa Oakdale, Caerffili

Os ydych wedi cael eich gweld fel claf GIG o’r practis a enwir uchod ers mis Ebrill 2020, bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda’r Bwrdd Iechyd a bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei hanfon atoch yn uniongyrchol. Bydd y wybodaeth hon yn eich cynghori ar y camau y bydd y Bwrdd Iechyd yn eu dilyn pan fydd practis deintyddol yn terfynu ei gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG. Os ydych yn dymuno parhau i gael mynediad at ofal deintyddol o'r practis o 1 Ebrill 2024, bydd hyn ar sail breifat ac felly dylid cysylltu â'r practis i drafod eich opsiynau ymhellach.

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd y practis deintyddol canlynol yn lleihau ei restr cleifion GIG:

  • Deintyddfa Trefynwy, Sir Fynwy

Os gwnaethoch drosglwyddo i Ddeintydd Trefynwy ym mis Ionawr 2023, bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda’r Bwrdd Iechyd a bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei hanfon atoch yn uniongyrchol. Bydd y wybodaeth hon yn eich cynghori ar y camau y bydd y Bwrdd Iechyd yn eu dilyn pan fydd practis deintyddol yn lleihau ei restr cleifion GIG. Os ydych yn dymuno parhau i gael mynediad at ofal deintyddol o'r practis o 1 Ebrill 2024, bydd hyn ar sail breifat ac felly dylid cysylltu â'r practis i drafod eich opsiynau ymhellach.

 

O 1 Medi 2024, ni fydd y practis deintyddol canlynol yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion mwyach:

  • Practis 'Thriving Meadow', Magwyr, Sir Fynwy

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu'n fuan at yr holl gleifion yr effeithir arnynt gan derfynu'r contract gyda rhagor o fanylion am sut i gael mynediad at Ofal Deintyddol y GIG o fis Medi 2024. Os ydych yn dymuno parhau i gael gofal deintyddol gan bractis deintyddol Thriving Meadow o 1 Medi 2024, bydd hyn ar sail gofal preifat ac felly dylid cysylltu â'r practis i drafod eich opsiynau ymhellach.

O 1 Medi 2024, ni fydd y practis deintyddol uchod bellach yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion:

  • Deintyddfa Parc Beaufort, Cas-gwent, Sir Fynwy

Os ydych wedi cael eich gweld fel claf GIG o’r feddygfa uchod ers mis Ebrill 2020 bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda’r Bwrdd Iechyd a bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei hanfon atoch yn uniongyrchol. Bydd y wybodaeth hon yn eich cynghori ar y camau y bydd y Bwrdd Iechyd yn eu dilyn pan fydd practis deintyddol yn terfynu ei gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG. Os ydych yn dymuno parhau i gael mynediad at ofal deintyddol o'r practis o 1 Medi 2024, bydd hyn ar sail breifat ac felly dylid cysylltu â'r practis i drafod eich opsiynau ymhellach.