Neidio i'r prif gynnwy

Monitro'r Ddeddf Iechyd Meddwl

Mae Pwyllgor Monitro’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn rhoi cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd a’r Swyddog Atebol drwy fonitro ac adolygu’n feirniadol y ffordd y mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae’n cefnogi’r Bwrdd Iechyd i gyflawni ei atebolrwydd a chyfrifoldebau am gyflawni amcanion a gofynion sefydliadol y Bwrdd Iechyd yn unol â'r safonau llywodraethu da a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr Is-bwyllgor Pŵer Rhyddhau, a gyfansoddwyd gan Reolwyr Cyswllt Ysbyty.

Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter.

Lawrlwythwch y Cylch Gorchwyl llawn.