Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Chanlyniadau Cleifion

Mae'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Chanlyniadau Cleifion yn rhoi cyngor amserol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r Bwrdd i'w gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau a chyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd a diogelwch gofal iechyd; a sicrwydd i'r Bwrdd mewn perthynas â threfniadau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer diogelu a gwella ansawdd a diogelwch gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf yn unol â'i amcanion datganedig a'r gofynion a'r safonau a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor hwn yn cyfarfod bob deufis (6 gwaith y flwyddyn).

Lawrlwythwch y Cylch Gorchwyl llawn.