Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgorau'r Bwrdd

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu ystod o bwyllgorau, dan gadeiryddiaeth Aelodau Annibynnol y Bwrdd, sydd â rolau allweddol mewn perthynas â'r Fframwaith Llywodraethu a Sicrwydd ac sy'n ymgymryd ar ran craffu, trafodaethau datblygu, asesiad o'r risgiau cyfredol a monitro perfformiad ar ran y Bwrdd, mewn perthynas â sbectrwm eang o swyddogaethau'r Bwrdd Iechyd a'i rolau a'i gyfrifoldebau.
 
Mae'r pwyllgorau yn darparu adroddiadau rheolaidd i'r Bwrdd i gyfrannu at ei asesiad o sicrwydd. Mae yna hefyd draws-gynrychiolaeth rhwng Pwyllgorau i gefnogi'r cysylltiad rhwng busnes pwyllgorau allweddol a hefyd i geisio integreiddio adroddiadau sicrwydd.
 
Mae pob un o'r pwyllgorau yn cyflwyno adroddiad sicrwydd gan Gadeirydd y Pwyllgor i bob cyfarfod cyhoeddus o'r Bwrdd Iechyd (bob dau fis), sy'n amlinellu risgiau allweddol ac yn tynnu sylw at feysydd datblygu. Mae pob pwyllgor hefyd yn cynnal asesiad blynyddol o effeithiolrwydd ac yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol i'w gyflwyno i'r Bwrdd Iechyd.
 
Mae'r Pwyllgorau yn ogystal ag adrodd i'r Bwrdd hefyd yn gweithio gyda'i gilydd ar ran y Bwrdd i sicrhau lle bo angen bod traws-adrodd ac ystyried yn digwydd a bod sicrwydd a chyngor yn cael ei ddarparu i'r Bwrdd a'r sefydliad ehangach.