Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Gweithredol

Mae gan y Tîm Gweithredol rôl arwain a chydlynu wrth gynllunio, gweithredu a monitro busnes a chysylltiadau mewnol ac allanol y Bwrdd Iechyd o ddydd i ddydd yn effeithlon, yn effeithiol ac yn briodol. Y Tîm Gweithredol yw'r mecanwaith y mae'r Prif Weithredwr yn cydlynu rheolaeth y sefydliad drwyddo. Mae'r Tîm Gweithredol yn ffynhonnell gyngor pwysig i'r Bwrdd Iechyd ar faterion allweddol fel y maent yn berthnasol i rôl a chyfrifoldebau corfforaethol y Bwrdd Iechyd. Mae'r Tîm Gweithredol yn cymeradwyo polisïau, gweithdrefnau a strategaethau sefydliadol allweddol yn unol â'i awdurdod a Chynllun Dirprwyo'r sefydliad.
 
Mae'r Tîm Gweithredol hefyd yn gweithredu fel Grŵp Gweithredol Rheoli Risg lle mae risgiau sefydliadol allweddol yn cael eu trafod a chamau gweithredu yn cael eu cytuno. Ar sail bob mis, mae'r Tîm Gweithredol hefyd yn adolygu'r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn ffurfiol ac yn nodi'r risgiau "Y 10 Uchaf" ac yn adrodd y rhain yn nôl i'r Bwrdd, y Pwyllgor Archwilio a Phwyllgorau eraill fel sy'n briodol.