Neidio i'r prif gynnwy

Beth os nad ydw i'n fodlon â'r ymateb?

Mae gennych hawl i ofyn am adolygiad mewnol. Er enghraifft, os nad ydym wedi ymateb o fewn terfynau amser, heb ddarparu cyngor a chymorth priodol, wedi methu ag egluro a ydym yn cadw'r wybodaeth neu heb esbonio'n iawn y rhesymau dros wrthod y cais neu gymhwyso eithriad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dylid gwneud ceisiadau am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr ymateb i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Nid oes rheidrwydd arnom i dderbyn cais am adolygiad mewnol ar ôl y dyddiad hwn oni bai bod amgylchiadau esgusodol. Esboniwch yn glir y rhesymau pam rydych yn anghytuno â'n hymateb, darparu tystiolaeth ategol os yw'n berthnasol, a rhoi eich rhesymau pam y dylech gael y wybodaeth os nad ydych yn credu bod y rhain wedi cael eu hystyried.

Os ydych yn dal yn anfodlon ar ddiwedd yr adolygiad, mae gennych yr hawl i fynd â'ch cwyn yn uniongyrchol at y Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cysylltu â hwy yn y cyfeiriad canlynol:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH