Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud cais

O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Deddf FOI) mae'n ofynnol i ni ddarparu gwybodaeth sydd gennym, oni bai bod eithriad yn berthnasol.

Nid yw'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni greu gwybodaeth na choladu rhestrau o wahanol ffynonellau. Hefyd, nid yw'n ofynnol i ni ddarparu cyngor, esboniadau na barn ar faterion pwnc o fewn ein cylch gwaith. Os ydych eisiau cyngor, esboniadau neu farn yn hytrach na gwybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd, ni ddylech wneud cais Rhyddid Gwybodaeth. Yn hytrach gallwch gysylltu â ni ar-lein, dros y ffôn neu drwy lythyr.

Os nad ydym yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel arfer byddwn yn ceisio rhoi gwybodaeth i chi sydd ar gael i'r cyhoedd a allai fod o gymorth, neu byddwn yn nodi sefydliadau eraill a allai fod o gymorth.

Os yw eich cais yn ymwneud â'r amgylchedd, mae'n ofynnol i ni ddelio ag ef o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) er ei fod wedi'i gyflwyno fel cais Rhyddid Gwybodaeth.

Byddwn yn ymateb i chi mewn perthynas â’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith i'w dderbyn.