Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Gall pobl wynebu iechyd gwael am nifer o resymau – gall hyn fod oherwydd ymddygiad pobl neu eu perthnasoedd.

Ffaith sy’n ein achosi trallod i ni yw mai yng Ngwent y mae’r gyfradd uchaf o droseddau sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Gwyddom y bydd hyn yn cael effaith barhaol ar iechyd y rheiny yr effeithir arnynt ac unrhyw blant sy’n byw yn y cartrefi hynny.

Mae llawer o fanteision i'ch iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl yn deillio o wneud gweithgarwch corfforol ond roedd 36% o’r bobl sy'n byw yng Ngwent (16+ oed) yn actif am lai na 30 munud yr wythnos cyn iddynt gwblhau ein arolwg.

Mae bwyta diet cytbwys ac iach hefyd yn ein helpu i gadw'n iach a dywedodd 76% o drigolion Gwent (16+ oed) eu bod wedi bwyta dim neu lai na phum dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol – fel y mae’r GIG yn ei argymell.

Ar draws y pum cymuned yng Ngwent mae yna annhegwch ac nid yw hyn yn deg. Un ffordd y daw hyn i’r amlwg yw trwy ddisgwyliad oes (pa mor hir y disgwylir i bobl fyw) a disgwyliad oes iach (blynyddoedd a ragwelir mewn bywyd iach ar adeg genedigaeth).

Mae disgwyl i ddynion sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Ngwent fyw 6.6 mlynedd yn hirach na dynion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Disgwylir i fenywod sy'n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Gwent fyw 6.4 mlynedd yn hirach na menywod sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

 

Mae dynion sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig Gwent yn byw 12.8 mlynedd yn hirach mewn cyflwr bywyd iach na dynion sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwent.

Mae menywod sy'n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Gwent yn byw 20.5 mlynedd yn hirach mewn cyflwr iach o'i gymharu â menywod sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwent.

 

Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gau'r bwlch yn ystod y 10 mlynedd nesaf.