Neidio i'r prif gynnwy

Ein Nodau

Ar ôl gwrando ar yr hyn sy'n bwysig i bobl Gwent, a dysgu o ymchwil, fe wnaethom ddatblygu tri nod i'n helpu i sicrhau bod gan bawb y gofal iechyd gorau, yr amgylchedd gorau a'r ffordd o fyw orau ar gyfer bod yn iach. Rydyn ni eisiau i bawb gael: gwell iechyd, gwell gofal, a bywydau gwell.

Iechyd Gwell

Gyda'n gilydd, byddwn yn cefnogi pobl i fod yn iach, yn actif ac yn hapus.

  • Bydd newid cadarnhaol yn yn digwydd o ran y ffactorau sy'n cyfrannu at iechyd gwael
  • Bydd mwy o bobl o rewn y categori Pwysau Iach
  • Bydd gostyngiad mewn clefydau y gellir eu hatal

Gofal Gwell

Gyda'n gilydd byddwn yn darparu'r hyn sy'n bwysig i bobl, gan gefnogi ein staff i ffynnu a chyflawni gofal o ansawdd, gofal caredig a gofal cynaliadwy.

  • Bydd y gwasanaethau y byddwn yn eu darparu a’u comisiynu yn bodloni'r safonau ansawdd a’r safonau clinigol perthnasol
  • Bydd gan bobl fwy o Ddiwrnodau Iach Gartref
  • Bydd mwy o bobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd yn eu cymunedau lleol

Bywydau Gwell

Gyda'n gilydd, byddwn yn creu cymunedau cryf, diogel a chysylltiedig.

  • Bydd pobl yn ei chael hi'n haws cysylltu â'u cymunedau, defnyddio gwasanaethau lleol, a theimlo eu bod yn cael eu parchu
  • Bydd y gyllideb sy'n cael ei gwario ar wasanaethau yn y gymuned wedi cynyddu ledled Gwent
  • Bydd mwy o bobl yn cymryd rhan yn eu cymuned leol er mwyn lleihau unigrwydd a chefnogi iechyd da