Neidio i'r prif gynnwy

Gwent yn 2035

Rydym am i bawb sy'n byw yng Ngwent yn 2035 gael yr un cyfle i fyw bywyd hir ac iach. Ond ni ellir gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Bydd angen ymdrech ar y cyd i gyflawni ein huchelgeisiau.

Ein hymrwymiad erbyn 2035:
  • Dileu'r rhwystrau y mae ein cymunedau wedi’u wynebu o ran gwella eu hiechyd
  • Sicrhau bod gwasanaethau yn eu lle i gefnogi iechyd meddwl a lles
  • Sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, gan ganolbwyntio ar gefnogi teuluoedd a gofalwyr
  • Canolbwyntio ar gadw pobl mor iach â phosibl yn eu cymuned leol
  • Gwneud mynediad i'n gwasanaethau yn syml, a lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i gael eich gweld gan y gweithiwr proffesiynol cywir ar gyfer eich anghenion
  • Cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol â chi am eich gofal iechyd
  • Gydag eraill, tyfu a chysylltu ein hasedau cymunedol er mwyn cefnogi eich lles
Eich ymrwymiad erbyn 2035:
  • Gwneud yr hyn y gallwch chi i wella eich iechyd a'ch lles eich hun
  • Siarad â'ch plant am eu lles a'u hemosiynau
  • Annog eich plant i adeiladu arferion iach a gwneud gweithgareddau iach gyda'ch gilydd
  • Os nad oes angen apwyntiad neu feddyginiaethau arnoch mwyach, rhowch wybod i ni fel y gallwn leihau gwastraff
  • Bod yn barchus ac yn garedig gyda’n staff pan fyddant yn eich cefnogi
  • Bod yn rhagweithiol pan fydd angen cymorth arnoch a dewis y gofal iechyd cywir ar gyfer eich anghenion
  • Manteisio ar y cyfleoedd yn eich cymuned er mwyn cadw mewn cysylltiad
  • Cadw llygad ar y rheiny nad oes ganddynt rwydwaith cymorth o'u cwmpas neu'r rheiny a allai fod yn agored i niwed ac yn ofni siarad