Neidio i'r prif gynnwy

Yr Hyn a Ddywedasoch Wrthym

Rhwng Mai a Hydref 2024, gofynnom y cwestiwn i bron i 7,000 o bobl yng Ngwent: Beth sy'n bwysig i chi deimlo'n iach?

Siaradom â phob rhan o gymdeithas yng Ngwent gan gynnwys grwpiau menywod, ffoaduriaid, pobl â salwch meddwl, a'n partneriaid.

Roedd yr ymatebion yn cynnwys eu bod eisiau cael sgyrsiau ystyrlon gyda'u darparwr gofal iechyd a chael eu trin ag urddas, a phwysigrwydd sicrhau bod pawb, dim ots beth yw eu hangen, yn gallu cael mynediad rhwydd at safleoedd a gwasanaethau y Bwrdd Iechyd. Dywedodd pobl hefyd eu bod eisiau i'w darparwr gofal iechyd ddeall a pharchu eu cefndir personol a'u hamgylchiadau - a phwysigrwydd cael mynediad at ofal cyn gynted â phosibl er mwyn atal problemau pellach.