Neidio i'r prif gynnwy

Archif Blog

Iechyd y Cyhoedd - Deallusrwydd ac Atal.  Pam fod hyn yn bwysig?

Sut y gall data, gwybodaeth a deallusrwydd ein helpu i fynd i'r afael â’r hyn sydd wrth wraidd y pwysau ar iechyd a gofal

Pan fo systemau a gwasanaethau dan bwysau, o ran galw ac adnoddau, yr ymateb naturiol yw ymdrin â’r risg uchaf a’r problemau sy’n syth o’n blaenau. Yna mae'r llif hwn o ran angen yn creu ein realiti, a'r galw sy'n pennu beth yw'r peth iawn i'w wneud. Ond a yw hyn yn ein harwain ar y trywydd iawn?  Gwyddom fod y galw yn cynyddu, nid oes angen dosbarth meistr ar ddata arnom i gadarnhau hyn. Ond a ydym ni’n wir yn deall beth sy’n achosi’r galw?  Yr ateb amlwg yw anghenion fwy fwy acíwt, poblogaeth sy'n heneiddio, oedi sydd wedi’i achosi gan y pandemig. Nid oes yr un o'r rhain yn anghywir, ond nid dyma'r unig achos ychwaith.

Mae data, sy’n cael ei droi’n ddeallusrwydd, yn rhoi cipolwg i ni o'r hyn sy'n achosi'r achosion. Mae systemau'n meddwl eu bod yn defnyddio data'n dda, ond wrth edrych yn fanylach rydym yn gweld ein bod yn defnyddio data fel proses rheoli perfformiad, ac mae hyn yn cynnig rhywfaint o fewnwelediad, ond mae'n gyfyngedig gan mai dim ond dangosyddion y gellir eu cyfrif yr ydym yn eu cynnwys. Mae hyn yn ein cyfyngu am ddau reswm: yn gyntaf, ni ellir cyfrif popeth sy'n cyfrif; yn ail, ond yn gysylltiedig, ni ellir ystyried canlyniadau drwy wneud hyn.  Er enghraifft, os mai’r metrig yw bod 85% o gleifion yn cael asesiad cychwynnol o fewn 14 diwrnod, a’n bod yn cyflawni hyn, yna rydym yn cael blwch gwyrdd. Ond os yw'r cleifion dan sylw yna’n cael eu symud ar restrau aros ar gyfer triniaethau, ac yn gorfod aros pedair blynedd, mae hwn yn ganlyniad gwael. Ac ni fydd mesurau o’r fath, boed wedi’u cyflawni neu fel arall, yn newid yr hyn sydd wrth wraidd y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal.

Mae mabwysiadu ymagwedd iechyd cyhoeddus a defnyddio gwybodaeth a deallusrwydd, yn hytrach na data ar ei ben ei hun, yn fodd o ddarparu gwybodaeth sy’n dod o hyd i broblemau sy’n arwain at bobl yn byw cyfran uwch o'u bywydau mewn iechyd gwael, mwy o achosion o afiachedd a marwolaethau cynamserol y gellir eu hosgoi, ac yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, am y tro cyntaf ers 100 mlynedd, gostyngiad mewn disgwyliad oes. I gefnogi hyn, rydym wedi datblygu Cyd-Asesiad Strategol (JSA) https://abuhb.nhs.wales/health-advice/gwent-joint-strategic-assessment/ . Mae’r asesiad hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o iechyd a lles pobl Gwent mewn ffordd hygyrch y gall unrhyw un gael golwg arno. Daw’r rhan fwyaf o’r data o ffynonellau data cenedlaethol sydd ar gael i’r cyhoedd fel Stats Cymru, Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a chânt eu ddiweddaru’n rheolaidd. Mae’r Cyd-Asesiad Strategol yn ffynhonnell gyffredin i bartneriaid o bob cwr o Went sy’n rhoi gwybodaeth am y presennol, y dyfodol a’r hyn sy’n dylanwadau ar iechyd a lles poblogaeth Gwent.

 

Mae Cyd-Asesiad Strategol Gwent (JSA) sylfaen dystiolaeth y gellir ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o gynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau lleol, sy'n rhoi darlun o iechyd ar gyfer Gwent ac yn rhoi fframwaith i ni ar gyfer adeiladu Gwent decach, mwy diogel ac iach. Fe’i cynlluniwyd fel adnodd rhyngweithiol ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym meysydd cynllunio, gweithrediadau, cyllid, iechyd, gofal cymdeithasol, tai neu addysg neu yn y sector cymunedol a gwirfoddol. Gall Cyd-Asesiad Strategol Gwent oleuo’r broses o wneud penderfyniadau drwy ddarparu’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i greu newid cadarnhaol drwy un fersiwn o'r gwirionedd. Mae gwybodaeth a deallusrwydd, nid yn unig yn datgelu’r hyn sy’n achosi iechyd gwael y gellir ei atal, ond mae hefyd yn dangos patrymau afiechyd ac effaith penderfynyddion cymdeithasol iechyd, megis tlodi, addysg, tai, yr amgylchedd, ac ati. Mae'r ffactorau hyn yn aml yn cael eu hanwybyddu neu’n cael eu tanamcangyfrif wrth gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal, ond maent yn dylanwadu'n sylweddol ar iechyd a lles unigolion a chymunedau.

Sut gallwn ni ddefnyddio deallusrwydd a dulliau atal iechyd y cyhoedd er mwyn gwella canlyniadau iechyd a gofal?

Nid yw deallusrwydd a dulliau atal iechyd y cyhoedd yn ymwneud â chasglu a dadansoddi data yn unig, ond yn hytrach mae’n ymwneud â sut i’w ddefnyddio i lywio camau gweithredu a gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn golygu defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chydgynhyrchu atebion sydd wedi’u teilwra i’r cyd-destun a’r anghenion lleol. Dyma rai o’r ffyrdd y gall deallusrwydd a dulliau atal iechyd y cyhoedd ein helpu i wella canlyniadau iechyd a gofal:

  • Canfod a blaenoriaethu’r materion iechyd a gofal mwyaf enbyd a’r poblogaethau y maent yn effeithio arnynt fwyaf.
  • Deall yr hyn sy’n achosi ac yn gyrru’r problemau hyn a'r ymyriadau a'r polisïau posibl a allai fynd i'r afael â hwy.
  • Gwerthuso effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau a pholisïau presennol a newydd, a’u heffaith ar anghydraddoldebau iechyd.
  • Monitro ac adrodd ar gynnydd a chanlyniadau ymyriadau a pholisïau a nodi meysydd ar gyfer gwella a dysgu.
  • Cyfathrebu a rhannu canfyddiadau ac argymhellion deallusrwydd a dulliau atal iechyd y cyhoedd gydag  ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymarferwyr, ymchwilwyr, a'r cyhoedd.
  • Defnyddio technegau rhagfynegi i ddeall patrymau afiechyd a dangosyddion cynnar o ran bygythiadau a pheryglon fel pandemig.

Mae deallusrwydd a dulliau atal iechyd y cyhoedd yn berthnasol nid yn unig i weithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol, ond i unrhyw un sy'n ymwneud â gwella canlyniadau iechyd a gofal neu sydd â diddordeb mewn gwella. Drwy ddefnyddio deallusrwydd a dulliau atal iechyd y cyhoedd, gallwn symud o ddull adweithiol a seilo i ddull rhagweithiol ac integredig, sy’n canolbwyntio ar atal afiechyd, hybu lles, a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Bydd hyn nid yn unig o fudd i’r unigolion a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ond hefyd o ran cynaliadwyedd a gwytnwch ein systemau iechyd a gofal.

Profi ein Hymgysylltu Diwrnod ym Mhilgwenlli - dydd Mawrth 27 Chwefror 2024

Bore Coffi

Ar fore 27 Chwefror, fe wnes i a chydweithiwr o'r adran Cynllunio Strategol ymweld ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli ar gyfer 'Bore Coffi i Rieni' sy'n cael ei gynnal yn yr ysgol bob bore dydd Mawrth. Mae'r grŵp a ddechreuwyd gan Elusen Barnardo's, yn gyfle i rieni'r plant sy'n mynd i'r ysgol i ddod at ei gilydd, cael diod a bisgedi, sgwrsio, a rhannu profiadau gyda'i gilydd.

Yn y grŵp, roedd saith menyw o hiliau, diwylliannau ac ethnigrwydd gwahanol ac roedd pob un wedi dod yn ffrindiau agos iawn trwy'r grŵp bore coffi. Nid oedd dwy o'r menywod a oedd yno yn gallu siarad Saesneg ond roeddent yn dysgu'r iaith gan fenyw arall yn y grŵp a oedd yn cyfieithu ar eu rhan.

Un o'r pethau mwyaf trawiadol am y grŵp, a ddaeth i'r amlwg o fewn dim o dro, oedd pwysigrwydd y grŵp i'r menywod hyn, ac roedd nifer ohonynt yn cyfeirio ato fel "achubiaeth".

Pan ofynnwyd y cwestiwn mawr "beth sy'n bwysig i chi er mwyn teimlo'n iach?", fe gynigiodd y grŵp yr atebion canlynol:

  • Grwpiau cymunedol fel hwn [y Bore Coffi i Rieni yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli]
  • Addysg iechyd meddwl sy'n dechrau mewn ysgolion cynradd
  • Mynediad at wasanaethau iechyd meddwl
  • Cynrychiolaeth yn y bwrdd iechyd
  • Mynediad at wasanaethau ôl-enedigol
  • Cefnogaeth gan bobl

 

 

Gweithdy Anghydraddoldebau Iechyd

Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, fe es i i'r Gweithdy Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mhilgwenlli. Bu 20 o bobl o nifer o wahanol sefydliadau yng Ngwent, fel Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd, Newport City Homes, a Barnado's, yn bresennol yn y digwyddiad, a drefnwyd gan y Rhwydwaith Lles Integredig. Yn y gweithdy, gwnaethom drafod Egwyddorion Marmot fel y'i hamlinellwyd gan Syr Michael Marmot, a sut mae pwysigrwydd yr wyth egwyddor Marmot hyn yn amrywio rhwng un sefydliad a'r llall.

 

 

 

Mae'r wyth Egwyddor Marmot fel a ganlyn:

Yr wyth Egwyddor Marmot

Rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn

Galluogi'r holl blant, pobl ifanc, ac oedolion i ddefnyddio eu galluoedd i'r eithaf ac i gael rheolaeth dros eu bywydau

Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb

Sicrhau safon byw iach i bawb

Creu a datblygu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy

Atgyfnerthu rôl ac effaith atal salwch

Mynd i'r afael â hiliaeth, gwahaniaethu, a'r canlyniadau

Anelu at sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a thegwch o ran iechyd gyda'n gilydd

 

Yn dilyn y drafodaeth hon, gofynnwyd cwestiwn mawr "beth sy'n bwysig i chi er mwyn teimlo'n iach?" Fe gynigiodd y grŵp yr atebion canlynol:

  • Addysg
  • Cartref
  • Lle ac amgylchedd diogel
  • Diet da
  • Mynediad at gyfleusterau ymarfer corff
  • Crefydd ac ysbrydolrwydd
  • Gobaith
  • Mynediad at rwydwaith cymorth da
  • Mynediad at fyd natur
  • Mynediad at drafnidiaeth
  • Ymdeimlad o berthyn
  • Diddordebau a hobïau
  • Cynrychiolaeth yn y gymuned
  • Mynediad at ofal iechyd
  • Rheolaeth dros arian

 

3 Mehefin 2024

Rydyn yn cychwyn meddwl am ein strategaeth hirdymor a be ddylai’r gwasanaeth iechyd yng Ngwent edrych fel mewn 10 mlynedd

Fel y dywedon yn ein neges agoriadol, mae lot wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf – o’r pandemig, cyfleusterau newydd, i newidiadau yn y boblogaeth a staff. Mae rhai o’r penderfyniadau ni wedi’u gwneud yn y gorffennol wedi gweithio’n dda. Rhai eraill ni heb gael yn iawn.

Mae’r strategaeth yma’n gyfle i gymryd cam yn ôl, a gweld lle hoffwn fod mewn 10 mlynedd.

Mae rhan fwyaf o sefydliadau gyda strategaeth hirdymor. Yn aml, maen nhw’n cael eu sgwennu ac wedyn anghofio amdanyn, ac yn casglu llwch hyd at amser mae rhywun yn dweud bod angen ei ddiweddaru.

Ddim dyna ein bwriad ni. Rydyn ni eisiau datblygu strategaeth rydyn yn defnyddio’n ddyddiol i helpu ni wneud penderfyniadau sy’n darparu’r gwasanaethau gorau i bobl yng Ngwent.

Er mwyn iddo fe fod o ddefnydd, mae rhaid iddo fe wreiddio yn be mae pobl eisiau, ac nid beth rydyn ni’n meddwl bod nhw eisiau. Does dim dogfen gyda ni wedi’i sgwennu’n barod – papur gwag ydi o ar hyn o bryd. Felly rydyn wedi, ac am, mynd allan a gwrando.

Mae’r tîm wedi mynychu 69 gwahanol ddigwyddiad, ac yn gwrando ar beth mae pobl yn dweud. Rydyn wedi mynychu grwpiau cymuned a digwyddiadau ar hyd Gwent, ac yn bwriadu mynd i lawer mwy dros y misoedd nesaf.

Mae holiadur ar-lein ar gael i chi siarad gyda ni; rydyn yn gwrando ar Facebook, X (elwid gynt yn Twitter), TikTok a llefydd eraill; rydyn wedi edrych ar adborth ni wedi cael mewn ysbytai; ac rydyn yn darllen adroddiadau o Llais (Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Gofal Iechyd a Cymdeithasol).

Bydd gwrando yn ein helpu i ddeall y problemau y mae pobl yn eu hwynebu a'r pryderon sydd ganddynt. Byddwn yn gallu deall anghenion cyn i ni ddechrau meddwl am atebion.

Fel rhan o hyn, rydyn ni'n mynd i weithio yn yr agored - rhannu'r hyn rydyn ni'n ei glywed a'r hyn rydyn ni'n ei feddwl ar hyd y ffordd, sut rydyn ni'n datblygu'r strategaeth a beth fydd ynddi (a beth na fydd).

Rydyn ni'n mynd i ddefnyddio'r blog hwn i rannu'r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym - y da a'r drwg. Ac rydyn ni'n mynd i rannu ein meddwl yn gynnar, fel y gall pobl roi adborth i ni a dweud wrthym ble rydyn ni wedi anghofio rhywbeth. Bydd hyn yn golygu y gallwn newid a mireinio ein cynlluniau wrth i ni glywed a dysgu mwy, a byddwch yn gallu gweld pam a ble rydym wedi gwneud hynny.

Mae gweithio yn yr agored yn rhan bwysig o ddatblygu  ymddiriedaeth, a sicrhau ein bod yn datblygu strategaeth sy'n gweithio orau i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu

Ni fyddwn yn cael popeth yn iawn - byddwn yn cael pethau'n anghywir ac yn gwneud camgymeriadau ar hyd y ffordd. Ond bydd y dull hwn yn ein helpu i ddysgu ac addasu'n gyflym pan fydd hynny'n digwydd

I ddechrau, rydym wedi cyhoeddi cyfres o Egwyddorion Dylunio - canllaw i'n helpu i ddatblygu'r strategaeth. Dydyn nhw ddim yn berffaith - ond maen nhw'n dangos ein bwriad. Bydd pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn yn ein galluogi i ddeall problemau ac anghenion gwell. Bydd gweithio yn yr agored, a rhannu ein gwaith yn rheolaidd yn ein galluogi i wella popeth. Bydd adborth a mireinio parhaus yn ein galluogi i addasu wrth i ni ddysgu.

Dim ond y dechrau yw hyn - a gobeithio y byddwch yn rhoi adborth a herio’r tîm ar hyd y ffordd.

28 Mai 2024 - Egwyddorion Dylunio

Yr wythnos hon roeddem eisiau ysgrifennu ychydig am yr egwyddorion dylunio yr ydym wedi'u mabwysiadu er mwyn ein cefnogi i ddatblygu'r strategaeth hirdymor newydd. Gall egwyddorion dylunio olygu llawer o bethau gwahanol ac mae nifer o enghreifftiau gwahanol ar gael. O ran y Bwrdd Iechyd roeddem eisiau set o egwyddorion arweiniol y gallem eu defnyddio i siapio ein penderfyniadau ac i ddarparu fframwaith y gallai’r Bwrdd ac eraill eu defnyddio i herio, craffu a phrofi ein prosesau.

Maent hefyd yn rhywbeth yr ydym am i'n staff a'r cyhoedd eu defnyddio i’n herio - ydym ni wir wedi cadw at yr egwyddorion hyn? Wrth eu llunio rydym wedi tynnu gwybodaeth o sawl ffynhonnell, egwyddorion dylunio Llywodraeth y DU Egwyddorion Dylunio’r Llywodraeth - GOV.UK (www.gov.uk) a 10 Elfen Hanfodol y Wigan Deal, a nodir ar dudalen 8 yma PowerPoint Presentation (cfgs. org.uk).


Ein Hegwyddorion Dylunio:

  • Pobl sydd wrth galon popeth a wnawn. Byddwn yn cymryd amser i ddysgu am y person yn ei gyfanrwydd a dylunio yn seiliedig ar angen. Pobl, cleifion, gofalwyr, teuluoedd a staff.
  • Dylunio gyda data. Byddwn yn gadael i ddata a thystiolaeth lywio penderfyniadau, a byddwn yn dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
  • Atal sydd orau. Dechrau drwy atal. Pawb i wneud y gorau o'u galluoedd a rheoli eu bywydau eu hunain.
  • Defnyddio’r hyn sydd gennym. Defnyddio’r adnoddau sydd ar gael er mwyn sicrhau dyfodol hir i’r GIG.
  • Cymryd camau gyda ffocws er mwyn gwella canlyniadau. Gwneud yr hyn y gall y Bwrdd Iechyd yn unig ei wneud a chreu'r amodau ar gyfer llwyddiant.
  • Gwneud y gwaith caled er mwyn cadw pethau’n syml. Gwneud pethau’n syml ac yn hawdd i'w defnyddio hyd yn oed os yw pethau’n gymhleth y tu ôl i'r llenni.
  • Gwneud pethau'n agored, a thrwy hyn, gwneud pethau’n well. Tryloywder llwyr ynghylch heriau, cyfleoedd a phenderfyniadau. Rhannu’r hyn a ddysgir yn rheolaidd a rhannu ein gwaith.
  • Adborth Parhaus. Byddwn yn profi'n gynnar ac yn parhau i fireinio. Dywedom, gwnaethom, mae angen cymorth arnom; nid un broses unigol.
  • Bod yn gyson nid yn unffurf. Defnyddio’r un modelau ond eu rhoi ar waith o fewn y cyd-destun sy'n hyrwyddo tegwch ar draws Gwent.
  • Dim ond y dechrau yw hyn. Nid ydym wedi gorffen, nid yw hyn yn gorffen.


Gobeithio eich bod yn gallu gweld bod y rhain eisoes wedi siapio ein gwaith ymgysylltu hyd yma. Byddwn yn ysgrifennu mwy am y rhain yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae’r egwyddorion olaf 'Dim ond y dechrau yw hyn' yn elfen hanfodol o'r gwaith. Mae'r prosesau cynllunio a llunio strategaethau yn bwysig iawn, yn syml, cofnodi gwaith ar un cyfnod penodol yn unig y mae cynlluniau a strategaethau. Nid ydym am greu dogfen newydd hyfryd sy’n hel llwch ar ddiwedd y broses hon. Yn hytrach, rydym am fod mewn lle gwell fel sefydliad, yn gwneud penderfyniadau gwell, yn defnyddio ein hadnoddau’n fwy effeithiol ac yn bwysicaf oll yn parhau i gyd-ddylunio gyda’n preswylwyr.

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn a heriwch ni os nad ydych chi'n meddwl ein bod yn dilyn yr egwyddorion hyn.


22 Mai 2024 - Mewn Partneriaeth yr ydym yn Ymddiried

Wythnos yma wnes i fynychu'r Gynhadledd Penderfyniadau Gwnaethpwyd Gyda’n Gilydd wedi cynnal gan Fwrdd Partneriaeth Ardal Gwent. Roedd hi’n ddigwyddiad gwych gyda canoedd o bobl sy’n gweithio yn iechyd, gofal cymdeithasol tai, a thu hwnt yn rhannu ei phrofiadau o gydweithio, gweithio yn uniongyrchol gyda thrigolion i gynllunio gwasanaethau sy’n gweithio i’n trigolion.

Roedd y straeon yn emosiynol, heriol a’n hynod o bwerus, clywsom sut ydyn ni fel gwasanaethau yn aml yn methu’r cysylltiadau dynol syml, sut ydyn ni’n colli pobl yn gymhlethdod ein swp o ‘acronyms’ a sut, ambell waith, yn brysurdeb i symud i’r cam nesaf dylen ni wedi dal y llaw yna am ychydig o funudau’n fwy a meddwl mwy am ein sylwadau gan ei fod yn gadael argraff barhaol. Serch hynny roedd yn gynhadledd llawn gobaith, clywsom am bŵer mentora cymheiriaid yn iechyd meddwl, rhoi defnyddwyr gwasanaeth yn ganolog o’r cynllunio, clywsom am sut mae rhieni wedi galluogi'r ailgynllunio effeithiol o wasanaethau datblygu niwrolegol, a chlywsom am Carol, ei broseco a’i choctel corgimwch. I Garol pan wnaeth staff yr amser i ddeall beth oedd yn bwysig i unigolyn gyda dementia, sut oeddent yn byw bywyd ei hunain a’i arferion, mae ymyrraeth syml fel oergell fach a peth hyfryd ar ddydd Gwener yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i lesiant a siŵr o fod yn osgoi ymyraethau dwysach a dwysach.

Wrth i ni ddatblygu ein strategaeth hir dymor newydd i’r Bwrdd Iechyd, roedd dwy elfen o’r digwyddiad yma gwnaeth taro fi.

Yn gyntaf pŵer y stori, straeon sy’n gwneud gwahaniaeth. Trwy ein proses ymgysylltu hoffem dal y straeon a’i ddefnyddio nhw i roi ffocws adnewyddol i’n sefydliad, roedd yn glir o wrando ar y straeon traddodwyd Dydd Mercher wrth wrando ar ein trigolion a chynllunio gyda nhw mae gwasanaethau’n gwella. Wrth ateb y cwestiwn ‘Beth sydd yn bwysig i ti teimlo’n iach?’ mae pob sylw, stori a sgwrs yn rhodd sydd angen i ni wrando arno a chynllunio oddi wrth i siapio ein gwaith ac rydym yn ymroddedig i wneud hyn.

Yn ail mae’n hanfodol i roi partneriaeth wrth graidd ein strategaeth gwaith. Gall dull traddodiadol i strategaeth bod yn datblygu ein gweledigaeth, gwerthoedd a gweithredoedd ac wedyn ei rhannu gyda phartneriaid, ond rydym yn ymwybodol fel sefydliad iechyd poblogaeth y gwahaniaeth gallwn ni wneud i’n trigolion dim ond yn mynd i allu digwydd trwy bartneriaeth. Mae’n glir o straeon y trigolion bod angen i ni wneud y gwaith calen i wneud pethau’n syml ar draws sefydliadau ag asiantaethau, nid oes ots gan ein trigolion beth yw’r acronym uwchben y drws.

Beth yr ydym yn ceisio gwneud ar gychwyn y proses yw cychwyn trwy ddysgu am strategaethau, cynlluniau a’r gwaith mae’n bartneriaid wedi gwneud ar ymgysylltu gyda thrigolion. Yn ddiweddar cynhaliwyd cyfarfod gyda phartneriaid ar draws awdurdodau lleol, y trydydd sector a grwpiau partneriaeth ble rhannwyd gwaith strategaeth, trafodwyd cyd gweledigaethau a edrychwyd ar beth allwn ni dysgu o’r ymgysylltu gyda thrigolion gwnaethpwyd gan sefydliadau partner. Mae’n bwysig nad ydym yn creu blinder gyda holiaduron trwy ofyn yr un cwestiynau o ongl sydd bach yn wanhaol a’n bod ni’n dysgu o straeon traddodwyd yn barod. Byddwn yn parhau i feddwl sut ydyn ni’n gwneud yn gydnaws a hefyd cefnogi'r rhai sydd yn y sefydliadau'r sector cyhoeddus i ddarparu ar ei chynlluniau a sut mae ei waith a phrofiadau nhw yn gallu siapio beth ydyn ni’n ei wneud.

Dyma i bŵer y stori, dewch i ni glywed eich un chi.