Neidio i'r prif gynnwy

Adferiad Ôl-Covid

Salwch byr y mae’r mwyafrif o bobl sy'n profi haint COVID-19 yn ei gael, er y gall adferiad llwyr gymryd mwy o amser. Gall symptomau effeithio ar oedolion a phlant a gallant amrywio o ran difrifoldeb a natur dros amser. Bydd angen amser ar y rhan fwyaf o bobl sy'n profi COVID-19 i wella o'r salwch. Mae'n bwysig bod pobl yn garedig â'u hunain ac yn caniatáu i'w corff wella'n naturiol.

Efallai y bydd rhai pobl yn gwella dros gyfnod mwy estynedig a byddant yn profi symptomau am fwy na 12 wythnos. Cyfeirir at hyn weithiau fel Syndrom Covid Hir. Fodd bynnag, ein profiad ni yw nad oes un patrwm penodol o ran symptomau, ac felly rydym ni yn y Gwasanaeth Rheoli Symptomau yn canolbwyntio ar anghenion a dewisiadau pob unigolyn.

Gall unigolion sy'n gwella ar ôl COVID-19 brofi diffyg anadl, blinder neu symptomau eraill sy'n ei gwneud hi'n anodd gwneud y pethau yr oeddent yn arfer eu gwneud cyn mynd yn sâl. Gall pa mor araf y mae rhywun yn gwella, a pha mor anrhagweladwy yw'r adferiad fod yn rhwystredig iawn.

Rydym wedi cynhyrchu cyngor gwych i gynorthwyo adferiad - ewch i'n tudalen Adfer o Salwch i ddod o hyd i adnoddau ar reoli symptomau.


Ydych chi'n profi symptomau estynedig ar ôl haint Covid-19?

I rai pobl, mae gwella yn dilyn COVID-19 wedi bod yn heriol iawn ac maent yn parhau i deimlo effeithiau’r salwch am fisoedd yn dilyn yr haint. Gall fod yn anodd deall pam mae'n ymddangos bod rhai pobl yn gwella'n gyflym, tra bod eraill yn cael eu heffeithio gan symptomau sy’n fwy amrywiol, sy’n cael mwy o effaith ac sy’n para am gyfnod hirach.

Gan fod anghenion oedolion a phlant a phobl ifanc yn wahanol, rydym wedi creu gwybodaeth ar gyfer pob grŵp ar sut y gallant helpu eu hunain i wella, yn ogystal â manylion am y gwasanaethau a gynigir gan y Bwrdd Iechyd, a sut i gael cymorth a chefnogaeth.

Dewiswch y grŵp cleifion perthnasol isod i gael rhagor o wybodaeth.

Gan fod llawer o bobl yn profi symptomau Ôl-Covid estynedig, efallai eich bod yn berthynas, yn ffrind neu'n weithiwr gofal sy'n pryderu ac sydd am gefnogi unigolion i wella a dychwelyd i'w bywyd arferol.

Isod mae rhai ystyriaethau ar gyfer pan fyddwch chi gyda rhywun â symptomau Ôl-Covid:

  • Atgyfnerthwch fod y symptomau y maent yn eu profi yn rhai go iawn a cheisiwch beidio â mynd yn rhwystredig os na fyddant yn gwella'n gyflym - mae adferiad o'r firws yn cymryd amser.
  • Cydnabod bod adferiad pob person yn wahanol iawn - peidiwch â barnu oherwydd bod person arall yn gwella'n gyflym, felly hefyd yr unigolyn hwn.
  • Ceisiwch eu helpu i ganolbwyntio ar y mân welliannau sy’n cael eu gwneud a rhoi gobaith iddyn nhw i bethau wella yn y dyfodol.
  • Cefnogwch nhw i ddilyn rhai o'r awgrymiadau gorau ar gyfer gwella o salwch .
  • Eu cefnogi i ymgynghori â'u meddyg teulu os oes ganddynt bryderon sylweddol.
  • Anogwch nhw i wneud ychydig o weithgaredd y dydd, ond peidiwch â'u gorfodi i wneud mwy a mwy.
  • Darllenwch wybodaeth am symptomau penodol os ydych chi'n meddwl y gallwch chi eu helpu i ddeall a rheoli'r materion.